Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 What Christ? Whose Christ Heb ras Duw, fyddwn i wedi marw.

Heb ras Duw, fyddwn i wedi marw.

Mae Mark Evans yn alcoholig. Ond gyda chymorth Duw, mae e’n gwella. Dyma ei hanes

Alcoholism Image

“Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.” (Marc 1:34 )

Mae dibyniaeth yn salwch; nid gwendid neu ddiffyg cymedroldeb ewyllysgar. Os ydych chi’n yfed yn ormodol ond yn gallu stopio, dydych chi ddim yn gaeth: mae gennych chi arfer gwael. Fe ddysgais i hyn wrth i mi yfed gormod ar brydiau; wedyn yfed gormod yn gyson ac yna drwy’r amser. Fe wnes i drio rhoi’r gorau i yfed ond fedrwn i ddim. Roeddwn i wedi colli rheolaeth i’r ‘ddiod felltith.’ A dyna yw alcohol – melltith o beth. Gallech ddweud bod dibyniaeth fel cael eich meddiannu gan rywbeth melltigedig, fel rhywbeth goruwchnaturiol mewn ffilm neu stori ddychrynllyd.

Ar ôl blynyddoedd o ymddygiad anghyfrifol cyson, yn brifo eraill a distrywio fy mywyd a bywydau’r bobl sy’n fy ngharu, fe aeth pethau i’r pen. Roeddwn wedi dinistrio perthynas gariadus. Roeddwn yn dinistrio fy nheulu a fi fy hun. Roeddwn yn agos iawn at farw. Gyda chefnogaeth fy nheulu a’m ffrindiau, bu’n rhaid i mi gydnabod bod gen i broblem ddifrifol a chefais le mewn clinig adferiad. Bu’r un wythnos ar ddeg hynny yn y clinig yn un o’r profiadau caletaf i mi erioed eu cael, ac mae rhai o brofiadau’r gorffennol wedi bod yn rhai caled iawn, mae hynny’n sicr.

Heb gefnogaeth gariadus, fyddwn i ddim wedi dod drwyddi. Fyddwn i ddim yma heddiw; heb ras Duw mi fyddwn wedi marw.

Ai gwyrth oedd e? A gafodd cythreuliaid eu bwrw allan fel mewn stori ddychryn? Na. Dim byd dramatig fel hynny, nid dyna ydy bywyd go iawn. Ond, trwy’r holl frwydr a’r dioddef, roedd presenoldeb tawel a chadarn Duw yno. Doedd dim rhaid i mi chwilio amdano; roedd e yno. Yn y bore wrth imi grwydro drwy ardd y clinig; mewn sesiynau caled o gwnsela; yn y sgyrsiau gyda’m cyd-ddioddefwyr. Roedd gan lawer brofiadau arswydus o gamdriniaeth a cham-fanteisio a bod yn amddifad. Eto, roedden nhw’n bobl llawn gras, trugaredd a chariad. Gallwn i deimlo Duw yn y gobaith oedd o’m cwmpas, ac ynof fi.

Ydw i wedi llwyr wella ac ydy bywyd yn fêl i gyd? Na. Alcoholig sy’n gwella ydw i. Dydy rhywun ddim yn gwella’n llwyr. Does dim iachâd parhaol. Mae dibyniaeth yn barhaol: rhaid ceisio ei reoli, ceisio osgoi llithro’n ôl a chodi’n ôl ar eich traed os yw hynny’n digwydd; peidio â gadael i’r diawl eich meddiannu unwaith eto. Mae’n waith caled, ond fe welais i drwy garedigrwydd eraill ac ym mhrydferthwch y byd a phresenoldeb iachaol Duw ei fod Ef yma yn ein gwarchod. Yn dawel a thyner. Mae Ef yma.