Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Elusen SaltPeter Trust Uganda - Fy Stori

Elusen SaltPeter Trust Uganda - Fy Stori

Uganda 1 [Marian Vaughan]

Deng mlynedd yn ôl, mae Marian Vaughan yn ddifrifol wael gyda chanser y fron ond gwnaeth yr holl brofiad wneud i fi fynd i wirfoddoli i Uganda

Roeddwn yn gweithio fel ymwelydd iechyd, ac mae fy ngŵr Mark, yn feddyg teulu. Yr ydym wedi bod yn gweithio mewn canolfan feddygol ac yn cynnal clinigau pop-up yn Soroti Uganda mewn cymunedau tlawd a difreintiedig.

Aeth fy mab, Geraint yno i ffilmio canolfan famolaeth oedd yn cael ei adeiladu gan EFOD (Engineers for Overseas Development) fel rhan o'i gwrs gradd. Cafodd y profiad hyn effaith mawr arno a daeth yn ôl mewn shorts, crys-T a flip flops ym mis Tachwedd gyda bag gwag. Roedd wedi rhoi ei eiddo cyfan i ffwrdd, a meddai - “Mam, Dad, does ganddynt ddim byd ac mae rhaid i chi fynd i helpu”.

Uganda 3

Uganda 5

Mae gwirfoddoli yn Uganda wedi bod yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl ac yn ffordd i fi ddiolch am gael bod yma.

Yr ydym yn mynd i Uganda gyda elusen Gristnogol SaltPeter a sefydlwyd gan bâr o Gaerdydd dros ugain mlynedd yn ôl. Mae dwy ran i’r elusen - EFOD (Engineers for Overseas Development) sy’n adeiladu clinigau, ysgolion neu gosod cyflenwad dŵr ayb ac hefyd SaltPeter sydd yn gweithio i gadw adeiladau EFOD yn rhai cynaladwy. Yr ydym yn gweithio mewn canolfan feddygol yn Soroti.

Ystyr y gair Soroti yw craig - “Salt Rock” ac mae’r gair Petros mewn Groeg yn golygu Peter yn ogystal â’r gair am “Rock”. Dyma pam wnaeth yr Iesu newid enw Seimon i “Pedr y Graig” a dyma sut y cafwyd yr enw “SaltPeter”.

Mae SaltPeter yn cefnogi sawl prosiect yn Uganada ac mae ethos yr elusen wedi cael ei seilio ar Mathew 25 adnod 40


A bydd y brenin yn ei hateb, “yn wir, rwyn dweud wrthych, yn gymaint ag i chwi ei wneud i un lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.

Buom yn teithio i Soroti ddwywaith y flwyddyn, ac yn ffodus iawn i gael grantiau gan Lywodraeth Cymru drwy gynllun Cymru ac Affrica i gynnal ein clinigau.

Awn â chyfarpar meddygol gyda ni ac mae ffrind sydd yn offthalmolegydd wedi prynu cannoedd o spectol darllen i ni . Mae crefydd yn bwysig iawn yn Uganda a defnyddiwn y Beibl i brofi eu golwg. Mae gweld eu gwên yn amrhisiadwy wrth iddynt allu darllen ei Beibl unwaith eto. Trefnwyd llawdriniaeth cataract i o leiaf 60 o gleifion.

Aeth tîm o chwech i Uganda yn mis Ionawr a cynnal clinigau pop-up ym mherfeddion Uganda a gwelsom a thrîn dros dwy fil o bobl. Cynhelir cyfarfodydd “Zoom” i sicrhau dilyniant a triniaeth pellach

Yr ydym hefyd yn noddi gŵr ifanc o'r enw Charlie a gafodd ei gipio yn filwr pan yn blentyn gan y Lord's Resistance Army. Mae ar ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Mae ei ffydd yn bwysig iawn iddo ac mae’n credu ei fod wedi cael ei achub gan Dduw.

Yr ydym yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn yn codi arian,ac yr ydym yn talu costau ein hunain i deithio i Uganda.

Os hoffech gyfrannu at ein gwaith drwy elusen SaltPeter defnyddiwch y cyfeiriad isod.

https://cafdonate.cafonline.org/10755