Gwers ardderchog mewn cyfathrebu
Mae disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Model yr Eglwys yng Nghymru, Caerfyrddin, wedi bod yn darllen ac yn trafod y llyfr lluniau gwych hwn.
Stori ydy hi am fachgen ifanc o'r enw Duncan a'i focs o greonau anhapus iawn sy'n penderfynu rhoi'r gorau iddi! Yn y stori, mae’r creonau yn cyfleu eu hanghenion a'u dymuniadau yn ddewr er mwyn cael eu deall a'u parchu. Roedd rhai yn teimlo eu bod yn gweithio’n rhy galed, rhai yn teimlo eu bod yn cael eu tanwerthfawrogi, roedd gan rai broblemau hunaniaeth, eraill yn teimlo eu bod wedi'u camddeall, neu'n syml roedden nhw eisiau gwneud pethau gwahanol i’r hyn yr oedd Duncan am iddyn nhw ei wneud!
Trwy drin a thrafod mewn ffordd ddiddorol, aethom ati i ymchwilio i safbwyntiau unigryw creonau Duncan a oedd i gyd yn lleisio eu pryderon a'u dymuniadau. Yna cafodd y disgyblion y dasg o gymhwyso’r pynciau yn y stori i fywyd go iawn. Mae gan bob un ohonom ein hanghenion a’n dymuniadau gwahanol a dylem eu cyfleu i'n helpu i gael ein deall a'n parchu, gan helpu i wella ein hiechyd meddwl a'n lles.
Y cam nesaf oedd i’r disgyblion gymhwyso’r stori i’w profiadau personol eu hunain, gan ddeall pwysigrwydd dangos empathi tuag at eraill, gan ddod i'r casgliad bod ystyried teimladau a safbwyntiau pobl eraill mor bwysig.
Fe wnaethom ni drafod dyletswydd v hunan-fudd.
A ddylem anwybyddu ein dyletswyddau neu rwymedigaethau dim ond am ein bod ni am wneud hynny? Ydy hi’n iawn rhoi'r gorau i rywbeth pan fydd pobl eraill yn dibynnu arnoch chi? Cafwyd trafodaeth dreiddgar am a oedd dyletswydd ar y creonau i gyflawni’r hyn yr oedd eu perchennog am iddyn nhw ei wneud oherwydd mai dyna oedd eu dyletswydd, neu a ddylen nhw wneud yr hyn fyddai o fudd iddyn nhw a gwneud yr hyn yr hoffen nhw ei wneud yn lle hynny?
Roedd y plant o'r farn y byddai hyn yn dibynnu ar beth oedd y rôl a'r cyfrifoldeb, ac ai oedolyn neu blentyn oedd dan sylw. Byddai'n dibynnu ar gymeriad rhywun a'i ddisgwyliadau moesol ei hun. Roedden nhw'n gadarn eu barn na allai eu hathro roi'r gorau iddi a pheidio â dod i mewn drannoeth, roedd yna bobl a oedd yn dibynnu arni i ddysgu llawer o bethau newydd iddyn nhw!
Yng nghanol yr holl drafodaeth wirioneddol wych hon a roddodd ddigon i ni gnoi cil yn ei gylch, roedden nhw hefyd yn brysur yn gwneud gwaith naddu yn eu sesiynau dysgu awyr agored, gan greu eu set o greonau eu hunain!
Roedd hon yn wers wych mewn cyfathrebu, mynegi anghenion, camu i esgidiau rhywun arall, a sylweddoli y gall trafod a negodi arwain at newid a datrys gwrthdaro, ac y gellir cymhwyso hynny i bob agwedd ar ein bywydau.
Gail Hawkins, Pennaeth Ysgol Model yr Eglwys yng Nghymru, Caerfyrddin