Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Ordeiniadau

Ordeiniadau

Bydd un Offeiriad a phum Diacon yn cael eu hordeinio yn seremoni draddodiadol Gŵyl Bedr yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Gweddïwch dros bob un ohonynt, eu teuluoedd a'r cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu.

Parch. Sarah Llewellyn

Sarah Llewellyn

Hyd at y llynedd roeddwn i wedi byw yn ardal Abergwaun ar hyd fy oes. Tyfu i fyny yn Llanychâr gyda fy mam-gu a symud yn ddiweddarach i Scleddau. Hyfforddais mewn gofal nyrsio a bûm yn gweithio mewn cartrefi preswyl a nyrsio lleol cyn rhoi'r gorau iddi i fod yn ofalwraig lawn amser i’m mam-gu. Ar ôl iddi farw, fe wnes i ailhyfforddi fel ystofiwr a gwëydd ym Melin Tregwynt, melin wlân leol.

Roedd pobl o ffydd yn rhan fawr o’r gymdeithas y cefais fy magu ynddi ac roeddwn yn mynychu'r eglwys yn rheolaidd. Ond dim ond yng nghanol fy arddegau y gwnes i ddatblygu fy mherthynas bersonol fy hun â Christ sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.

Yn 2016 cysylltodd ffrind â mi gan rannu ei bod yn teimlo’n gryf fy mod yn cael fy ngalw i'r weinidogaeth ordeiniedig. Dyna ddechrau fy nhaith ddirnadaeth. Ac, ar ôl rhai blynyddoedd o weddïo, myfyrio ac astudio, yn ogystal â siarad ag eraill yn yr eglwys, fe es gerbron y panel dirnadaeth a chael fy argymell ar gyfer gweinidogaeth gyflogedig. Dechreuais hyfforddiant llawn amser yn Athrofa Padarn Sant yn 2020, gan raddio y llynedd ychydig fisoedd ar ôl cael fy ordeinio'n Ddiacon ym mis Mehefin.

Mae fy mlwyddyn gyntaf fel curad wedi bod yn anhygoel. Mae pawb yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Sanclêr wedi bod mor hael a chroesawgar. Rydw i wedi bod mor ffodus i gael gweithio gyda thîm gweinidogaeth gwych ac rydw i eisoes wedi dysgu cymaint ganddyn nhw.

Nicola Davies
Nicola Davies

Rwy'n frodor o Ardal Gweinidogaeth Leol y Rhws ac rwyf wedi gweithio ym maes Pensaernïaeth Gadwraeth ers 25 mlynedd, yn lleol ac yn genedlaethol, gan weithio ar dros 45 o eglwysi yn ystod fy ngyrfa. Mae fy mywyd gwaith presennol yn cydbwyso bod yn syrfëwr i'r esgobaeth a gweithio hefyd yn fy mhractis preifat.

Ar ôl cyfarfod o’r Cyngor Plwyf yn Sussex yn 2016, cefais wybod bod Duw yn fy ngalw. Roeddwn yn bendant nad oedd hynny'n wir, ond ar ôl mynd ar gwrs ar fod yn ddisgybl, yn fuan, daeth yn amlwg i mi fod y Parchedig Colin yn gwbl gywir, a dyna ddechrau felly ar y daith emosiynol a newidiodd fy mywyd, gan fy nhywys yn ôl i Gymru yn 2019.

Mae gwasanaeth wrth galon popeth rwy’n ei wneud yn fy mywyd, gartref ac yn y gwaith, ac rwy’n gweddïo bod gweinidogaeth sy'n canolbwyntio ar Grist o fy mlaen, ac y bydd y ffocws hwn hefyd yn parhau i fod yn rhan annatod o'm gwaith fel syrfëwr yn cefnogi ein heglwysi, eu cymunedau a'u pobl i hyrwyddo Teyrnas Dduw.

Liz Jones.jpg
Liz Jones

Rwyf wedi gweithio'r rhan fwyaf o'm bywyd proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol, fel cwnselydd a rheolwr hostel i bobl ddigartref sydd ag anghenion cymhleth ac rwyf wedi gwasanaethu am gyfnod byr yn Lluoedd Wrth Gefn y Llynges Frenhinol.

Cefais fy ngalw i’r weinidogaeth ordeiniedig yn fy arddegau ac rwyf wedi cael y fraint o wasanaethu enwadau eraill, pan oeddwn yn byw ym Mryste. Wrth gael fy ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru, rwy’n teimlo fy mod wedi dod adref. Rhodd aruthrol yw cael gwasanaethu a chefnogi pobl, ar adegau o lawenydd a thrallod, yn enw Crist.

I mi, mae traddodiadau cyfoethog Anglicaniaeth yn drysorau i'w gwerthfawrogi a'u rhannu drwy addoli a thrwy’r defodau, tra bod gweddïau myfyriol yn gyfrwng i fod wrth ochr y rhai sy'n dyfnhau eu taith at Dduw.

Rwy’n chwarae bowls, ac yn mwynhau darllen a choginio. Rwy'n siarad Cymraeg, yn aelod o Orsedd y Beirdd ac mae hanes, traddodiad a llên gwerin Prydain o ddiddordeb byw i mi.

Romola Parish
Dr Romola Parish

Rwy'n gyn-academydd a chyfreithiwr sy'n arbenigo mewn materion amgylcheddol. Rydw i hefyd wedi astudio brodwaith llaw traddodiadol yn Ysgol Frenhinol Gwniadwaith, a barddoniaeth yn Rhydychen a Chaerdydd. Mae'r celfyddydau creadigol yn ganolog i’m gweinidogaeth.

Pam mynd i'r weinidogaeth?

Mae nifer o resymau synhwyrol dros gael eich ordeinio – cael eich hyfforddi, eich dilysu, a'ch cefnogi gan yr Eglwys yng Nghymru i wasanaethu Duw mewn ffyrdd newydd, er enghraifft; ond yn fwy na dim rwy’n gwneud hyn am fod Duw wedi gofyn i mi. Pa mor annisgwyl bynnag oedd yr alwad honno, does dim dewis ond ymateb yn llawen.

Dyheadau

Cefais gryn brofiad yn arwain encilion, diwrnodau tawel a gweithdai creadigol sy'n canolbwyntio ar weddïo myfyriol, creadigrwydd a dirnadaeth ysbrydol. Rwy'n gobeithio parhau i ddatblygu'r doniau hyn fel ffocws allweddol wrth weinidogaethu.

Luke Spencer
Luke Spencer

Beth i'w ddweud... Cefais fy magu yn Swydd Gaerlŷr mewn teulu Catholig Eingl-Eidalaidd, gyda'r bwyd, y gwin, a’r defosiwn i Galon Gysegredig Iesu a'r Forwyn Fair Fendigaid sy’ n cyd-fynd â hynny! Fel plentyn, cefais y gorau o’r ddau fyd, Catholigiaeth ac Anglicaniaeth, a minnau’n aelod o gôr Cadeirlan Caerlŷr yn ogystal â chael fy magu’n Gatholig.

Es ymlaen i astudio opera ac astudiaethau lleisiol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Wedi hynny, roeddwn i'n meddwl bod Duw yn fy ngalw i fywyd crefyddol pan oeddwn i yn fy 20au cynnar ac felly fe ymunais ag urdd grefyddol Gatholig. Cefais bedair blynedd anhygoel yn yr urdd honno, gan gynnwys cael fy anfon i ymgymryd ag astudiaethau pellach ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y Sefydliad Cerdd Sanctaidd Archoffeiriadol yn Rhufain. Dyma hefyd lle cafodd fy mywyd o weddi ei feithrin a lle y daeth yn sylfaen gadarn i mi, ac rwy’n dal i fod yn hoff iawn o rythm a gweddi'r gwasanaethau dyddiol. Fodd bynnag, am amryw o resymau, dewisais adael bywyd crefyddol a dilyn gyrfa ym myd addysg.

Trwy gydol fy mywyd ym myd addysg mae Duw wedi bod yn galw arna i yn gyson a dim ond hyn a hyn o weithiau y gallwn ddweud "Na, dwi'n iawn lle rydw i, diolch!" Fe wnes i ddod o hyd i’m cartref ysbrydol yn yr Eglwys yng Nghymru ac yma hefyd y ces i sicrwydd fod Duw yn fy ngalw i archwilio fy ngalwad i weinidogaeth ordeiniedig. Mae'r Arglwydd yn gweithio mewn dirgel ffyrdd...

Rwy'n dad i John ac Anna (sydd bellach yn 20 a 21 oed... ac ydy mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n hen!), rwy'n athro ac ar hyn o bryd yn Bennaeth y Celfyddydau Mynegiannol ac yn Bennaeth Iechyd a Lles yn ein hysgol esgobaethol 3-16 oed, Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi. Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan o’m bywyd fel arweinydd Côr Dyfed a’r Cantabile Singers.

Rwy'n teimlo bod Duw wedi fy ngalw i’m galwedigaeth fel athro ac i'm galwedigaeth fel offeiriad ac rwy'n falch iawn o wasanaethu fy nghuradiaeth yn fy ysgol fel caplan ac yn Ardal Weinidogaeth Leol Daugleddau. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi'n bersonol, yn ystod fy nirnadaeth a'm hyfforddiant, ac rwy'n diolch i Dduw am bawb sy'n cael eu hordeinio yn ystod Gŵyl Bedr eleni.

Sally Williams
Sally Williams

Rydw i wedi addoli yn yr Eglwys Anglicanaidd ar hyd fy oes – mewn gwahanol gymunedau ac eglwysyddiaeth.

Rydw i wedi bod yn aelod o’r Gymdrodoriaeth Galwedigaeth ers ei dechrau, gan ennill gradd mewn Diwinyddiaeth yn 2021 trwy ddilyn y cwrs Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd ac mae'r elfennau hyn gyda'i gilydd wedi chwarae rhan hanfodol i’m helpu i ddirnad fy ngalwedigaeth a'm galwad.

Rwy'n briod â Gareth ac mae gennym fab, Owain, sydd yn y 6ed dosbarth. Rwy'n gweithio'n rhan-amser yn yr ysgol uwchradd leol fel llyfrgellydd yr ysgol.

Rydw i wrth fy modd yn teithio a threulio amser yn fy ngharafán.

Pam mynd i'r weinidogaeth?

Teimlais alwad i'r weinidogaeth y tro cyntaf tua 18 mlynedd yn ôl, ac er i mi ei rhoi o’r neilltu i ddechrau, rydw i bellach wedi treulio amser yn ystyried sut alwad allai hon fod i mi.

Gweinidogaeth Anghyflogedig - yn fy nghyd-destun lleol mae'n fy ngalluogi i feithrin y perthnasoedd presennol sydd gen i yng nghymuned yr eglwys a thu hwnt, i garu ac i annog yr eglwys leol a'r Ardal Weinidogaeth leol i feithrin perthnasoedd, tyfu yn y ffydd a dod â chariad Duw i'r rhai rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw.

Dyheadau

Yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn rhoi yn ôl i'r Gymdrodoriaeth Galwedigaeth ac i Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd gan eu bod wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy nhaith.