Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Proffil Ordeinio

Proffil Ordeinio

Luke Spencer
Luke Spencer

Beth i'w ddweud... Cefais fy magu yn Swydd Gaerlŷr mewn teulu Catholig Eingl-Eidalaidd, gyda'r bwyd, y gwin, a’r defosiwn i Galon Gysegredig Iesu a'r Forwyn Fair Fendigaid sy’ n cyd-fynd â hynny! Fel plentyn, cefais y gorau o’r ddau fyd, Catholigiaeth ac Anglicaniaeth, a minnau’n aelod o gôr Cadeirlan Caerlŷr yn ogystal â chael fy magu’n Gatholig.

Es ymlaen i astudio opera ac astudiaethau lleisiol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Wedi hynny, roeddwn i'n meddwl bod Duw yn fy ngalw i fywyd crefyddol pan oeddwn i yn fy 20au cynnar ac felly fe ymunais ag urdd grefyddol Gatholig. Cefais bedair blynedd anhygoel yn yr urdd honno, gan gynnwys cael fy anfon i ymgymryd ag astudiaethau pellach ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y Sefydliad Cerdd Sanctaidd Archoffeiriadol yn Rhufain. Dyma hefyd lle cafodd fy mywyd o weddi ei feithrin a lle y daeth yn sylfaen gadarn i mi, ac rwy’n dal i fod yn hoff iawn o rythm a gweddi'r gwasanaethau dyddiol. Fodd bynnag, am amryw o resymau, dewisais adael bywyd crefyddol a dilyn gyrfa ym myd addysg.

Trwy gydol fy mywyd ym myd addysg mae Duw wedi bod yn galw arna i yn gyson a dim ond hyn a hyn o weithiau y gallwn ddweud "Na, dwi'n iawn lle rydw i, diolch!" Fe wnes i ddod o hyd i’m cartref ysbrydol yn yr Eglwys yng Nghymru ac yma hefyd y ces i sicrwydd fod Duw yn fy ngalw i archwilio fy ngalwad i weinidogaeth ordeiniedig. Mae'r Arglwydd yn gweithio mewn dirgel ffyrdd...

Rwy'n dad i John ac Anna (sydd bellach yn 20 a 21 oed... ac ydy mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n hen!), rwy'n athro ac ar hyn o bryd yn Bennaeth y Celfyddydau Mynegiannol ac yn Bennaeth Iechyd a Lles yn ein hysgol esgobaethol 3-16 oed, Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi. Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan o’m bywyd fel arweinydd Côr Dyfed a’r Cantabile Singers.

Rwy'n teimlo bod Duw wedi fy ngalw i’m galwedigaeth fel athro ac i'm galwedigaeth fel offeiriad ac rwy'n falch iawn o wasanaethu fy nghuradiaeth yn fy ysgol fel caplan ac yn Ardal Weinidogaeth Leol Daugleddau. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi'n bersonol, yn ystod fy nirnadaeth a'm hyfforddiant, ac rwy'n diolch i Dduw am bawb sy'n cael eu hordeinio yn ystod Gŵyl Bedr eleni.