Codi’r llen ar fywyd gwyllt
Yn aml mae yna gyfrinach yn cuddio mewn mynwent eglwys, fel y datgela Harriet Carty, o Caring for God’s Acre.
Efallai fod yna nadroedd defaid yn byw yno, sydd prin yn cael eu gweld gan ymwelwyr gan eu bod yn dueddol o guddio mewn llystyfiant heb ddod allan i fwynhau’r haul fel ymlusgiaid eraill. Yn wahanol i’r hyn a awgrymir gan yr enw Saesneg amdanyn nhw (slow-worm), dydyn nhw ddim mor araf â hynny nac yn fwydod, ond dydyn nhw ddim yn nadroedd chwaith! Madfallod heb goesau ydyn nhw a dweud y gwir, a phan maen nhw wedi cynhesu ac yn symud maen nhw’n gallu mynd yn reit gyflym!
Mae nadroedd defaid yn hela mewn mannau cudd fel tomenni compost, llystyfiant trwchus ar waelod wal neu wrych ac mewn pentyrrau o foncyffion neu gerrig. Maen nhw’n dal ysglyfaeth arafach fel gwlithod ac yn gallu gostwng eu cynffonnau i ddianc rhag ysglyfaethwyr, sy’n wir am bob madfall.
Mae’r haf yn amser da i chwilio amdanyn nhw a’r ffordd hawsaf i wneud hyn yw trwy ddefnyddio darnau o hen ddeunydd to, tua 50cm sgwâr. Gallwch ddefnyddio llenni metel rhychog ond ceisiwch osgoi ymylon miniog. Gosodwch rai o’r rhain mewn mannau sy’n dal haul y bore ac i ffwrdd o lwybrau, efallai mewn llystyfiant mwy garw fel glaswellt twmpathog. Bydd nadroedd defaid yn mynd oddi tanyn nhw i gynhesu yn y boreau cyn mynd allan i hela ac fe allan nhw fod yno ar unrhyw adeg o’r dydd mewn tywydd oerach.
Archwiliwch y sgwariau tua unwaith yr wythnos, gan godi un ochr yn ofalus ac edrych oddi tano. Ceisiwch edrych rhwng 8:00 a 10:00am i gael y canlyniadau gorau gan mai dyna pryd fydd yr anifeiliaid yn cynhesu. Beth am dynnu llun cyflym wrth i’r sgwâr gael ei godi, cyn iddo sgrialu neu lithro i ffwrdd! Gall anifeiliaid gymryd amser i ddod o hyd i’r sgwariau felly byddwch yn amyneddgar. Po fwyaf o sgwariau sydd gennych chi, fe fyddwch chi’n fwy tebygol o gael llwyddiant.
Mae mynwentydd eglwys yn lloches i ymlusgiaid ac amffibiaid fel llyffantod, brogaod a madfallod dŵr. Mae CfGA yn casglu gwybodaeth i gael gwell dealltwriaeth o’u pwysigrwydd i’r anifeiliaid hyn. Tynnwch lun trwy ddefnyddio ap iNaturalist neu rhowch wybod i ni beth ydych chi wedi’i weld drwy e-bostio harriet@cfga.org.uk,