Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Duw a'r Glec Fawr

Duw a'r Glec Fawr

Sophie Whitmarsh sy’n myfyrio ar Ŵyl Dydd y Dyrchafael eleni a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel digwyddiad yn y ddeoniaeth rai blynyddoedd yn ôl wedi troi'n ddigwyddiad plant esgobaethol llawn bob blwyddyn. Mae Gŵyl Dydd y Dyrchafael, sy'n cael ei chynnal fel arfer ar Ddydd y Dyrchafael, yn gyfle gwych i ysgolion cynradd ddod â grŵp o blant i brofi amrywiaeth o weithgareddau ac addoli yn ein cadeirlan wych. Doedd eleni ddim yn eithriad, gyda phum ysgol yn mynychu, a thros 300 o blant.

God and Big Bang 2 [Craft]

Cymerodd Duw a'r Glec Fawr ran, gydag arbrofion gwyddonol yn gofyn cwestiynau mawr, gan gyflwyno'r plant i'r syniad y gall Gwyddoniaeth a Ffydd fynd law yn llaw yn ddigon hwylus. Buom yn archwilio themâu Halen a Goleuni, a sut y gallwn fod yn Halen a Goleuni yn y byd, trwy fod yn wylaidd, trwy faddau, trwy addoli a thrwy wasanaeth.

Yn ogystal â’r wyddoniaeth helaeth a gafwyd eleni, cawsom hefyd lawer o grefftau a gweithgareddau i archwilio'r themâu ymhellach. Roedd un o'r rhain yn ymwneud â sut rydyn ni'n cael effaith ar y byd ac ar ein gilydd, a sut mae'n rhaid i ni ofalu am bopeth sydd gennym. Fel adlewyrchiad o hynny, fe wnaethom ni bethau sanctaidd, cysegredig trwy ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Buom hefyd yn trafod sut mae siarad am ein ffydd yn gofyn i ni fod yn ddewr, gan edrych ar eraill sydd wedi bod yn ddewr ac yn wrol o’n blaen ni, gan gynnwys Iesu wrth gwrs, ac fe wnaethom ni luniau o bob un ohonon ni’n ymddwyn yn ddewr. Dyma rai o’n gweithgareddau wrth i ni archwilio bod yn Halen ac yn Oleuni.

Diwrnod llawn llawenydd, a ddaeth i ben gydag addoliad. Clywsom stori'r Samariad Trugarog, a buom yn canu a dawnsio, yn gweddïo ac yn chwerthin. Roedd yn bleser ac yn fraint cael bod yn rhan o'r diwrnod. Fel arfer, rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gaf gan gynifer ar draws yr esgobaeth sy'n fy helpu i gynnal y digwyddiad hwn.