Dyddiadur gwraig y ficer
Polly Zipperlen ar beryglon siarad plaen
Mewn sawl ffordd, rwy’n gwbl wahanol i mam. Roedd mam wedi aros gartref gan ymroi yn llwyr i drefniadau beunyddiol fy mywyd i a’m brawd. Ni fedrai yrru car, felly daethom yn annibynnol iawn yn reit ifanc. Un tro, yn 4 oed penderfynodd fy mrawd fynd o’i ben a’i bastwn ei hun i nôl sgod a sglods. Yn 12 oed, rwy'n cofio mynd ar 'ddêt' i Covent Garden gyda bachgen yr oeddwn i wedi cwrdd ag e bythefnos ynghynt yn Pontins. Roedd y trefniadau i gyd wedi eu gwneud drwy'r post. Pan droiodd e i fyny yng nghwmni ei fam, wel, diflannodd pob diddordeb oedd gen i ynddo yn reit fuan.
Mae rhai nodweddion tebyg rhwng fy mam a minnau. Er enghraifft, mae cadw wyneb syth bob amser wedi bod yn anodd i ni, ac mae siarad plaen yn llawer haws i ni na gweniaith. Peidiwch byth â gofyn i ni am farn ar eich dillad oni bai eich bod yn barod i glywed y gwir plaen.
Cefais fy atgoffa o hyn yr wythnos diwethaf, wrth daro ar ffrind yn siopa a gofyn beth oedd ei gynlluniau dros y penwythnos. Roedd yntau’n edrych ymlaen at fynd i wersylla gyda'i gariad, ond fy ymateb i oedd chwerthin llond fy mol oherwydd y tywydd gwanwynol ofnadwy roedden nhw’n debygol o’i ddioddef, yn hytrach na rhannu ei lawenydd o gael penwythnos haeddiannol iawn i ffwrdd; deallais yn llawer rhy hwyr y gallai fy ymateb fod wedi bod braidd yn anffodus ac o bosibl yn sarhaus. Yn ffodus, roedd e’n gweld yr ochr ddoniol a wnes i ddim pechu.
Yn anffodus, efallai fod fy mab ieuengaf wedi etifeddu'r un nodwedd. Pan oedd yn bedair oed, gofynnais iddo (am ryw reswm) ai fi oedd y fam orau yn y byd. Fe ddylwn i fod wedi gwybod, ar ôl iddo bwyso a mesur yn hir, nad oeddwn am gael yr ateb yr oeddwn i am ei glywed. O'r diwedd meddai – "Wel, mae Tara….", doedd dim mwy i’w ddweud. Rhif 5 ar y rhestr oeddwn i, ar ôl fy chwaer-yng-nghyfraith a thri ffrind arall. Fe ddylwn i fod wedi cofio, ddwy flynedd ynghynt, i’m mab hynaf, hefyd yn bedair oed, awgrymu y gallwn efallai wisgo dillad fel rhai Tara. Mae'n rhaid i mi ddweud eu bod wedi dewis yn ddoeth ac mae'r anrhydedd yn haeddiannol iawn; mae pawb angen ychydig bach o Tara yn eu bywydau.
Yn ffodus, erbyn hyn mae gen i'r ci, ac mae e'n bendant yn meddwl mai fi yw'r person gorau ar yr aelwyd, sef y prif berson sy’n darparu gofal, bwyd, teithiau cerdded a gemau i’w chwarae. Er, rhaid dweud, mae'n hoff iawn o fy ffrind Fran...