Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Hanesion plentydod ficerdy

Hanesion plentydod ficerdy

Eluned 2024

‘Are you sitting comfortably? Then I’ll begin”’ A dyma fi’n eistedd ar gôl fy mam yn gwrando ar Listen with Mother, ar y radio, sori ‘wireless’. Roedd gwrando ar y newyddion yn bwysig, a rhagolygon y tywydd yn bwysicach fyth. Rhaid oedd bod yn hollol dawel am hwnnw. A phwy sy’n cofio Uncle Mac ar fore Sadwrn? Ces i gyfarchiad unwaith ac fe chwaraewyd naill ai The Laughing Policeman neu How much is that doggy in the window? Methu cofio ond dyna’r ffefrynnau.

Bydde ‘nhad wrth ei fodd yn gwrando ar Teulu’r Mans ac ambell i gyfres fel darllediad o Dombey and Son gan ei fod yn ffan mawr o Dickens. A bron y gallaf arogli’r dillad glân wrth ddod adre o’r ysgol i glywed Mrs.Dale’s Diary tra roedd mam yn smwddio.

Daeth teledu i Glannant, drws nesa, cyn dod atom ni. Cawson ni ein hanfon i’r gwely unwaith achos i ni fynd mewn i wylio Popeye, a chael bowlen o bwdin reis blasus gan Anti Millie, wedi cael siars i beidio. Yn fuan wedyn, beth bynnag, daeth y teledu i eistedd yn y gornel yn ein tŷ ni , a nawr Watch with Mother bob prynhawn. Picture Book bob dydd Llun, ac wedyn trefn o raglenni bach cofiadwy a diniwed am deulu pren, gardd gyda dynion yn byw mewn pot blodau, ac anifeiliaid doniol. Roeddem yn rhwydd i’n plesio!

Doedd fawr ddim o Gymraeg ar y teledu, hyd nes daeth Telewele ac wrth gwrs, dwy sianel fu am flynyddoedd. Er bod rhaglenni ar brynhawn Sul, dim ond unwaith y cofiaf i ni gael gweld ffilm, a hynny achos mai Mary, Queen of Scots oedd hi. Cofiaf lefain ar y diwedd. Roedd y rhaglenni ysgafn yn weddol ddiniwed hefyd gyadg ambell un o’r Amerig, fel Mister Ed ac I love Lucy

Ond i goroni ein gwylio roedd sawl cyfres ddrama dda. Byddem yn rhuthro nôl o’r gwasanaeth nos Sul i wylio cyfresi fel The Forsyte Saga, Saul of Tarsus a storiau Dickens. Roedd nos Sadwrn yn fwy o adloniant ysgafn, Billy Cotton a’i sioe, a Black and White Minstrels, sy’n codi cywilydd arnom erbyn hyn. Y tro cyntaf i fi weld Top of the Pops oedd yn nhŷ plwyfolion, Ron a Randal Isaac, a dechrewyd diddordeb mewn cerddoriaeth bop.

Erbyn fy arddegau, daeth mwy o raglenni Cymraeg (cyn dyddiau S4C) a dechreuais gystadlu mewn cwisiau, ac ennill Dringo’r Ysgol a Tri Chynnig. Pam na ddes i’n seren enwog ar y teledu tybed?!!!