Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Canhwyllau are gyfer Wcráin

Canhwyllau are gyfer Wcráin

Candles for Ukraine [Ian Jones]

Mae erthygl ddiweddar mewn papur newydd wedi ysgogi aelodau o Eglwys y Santes Fair, Penfro, i gymryd rhan mewn prosiect dyngarol reit wahanol. Dyma Ian Jones yn esbonio

Disgrifiodd yr erthygl sut roedd tair esgobaeth Anglicanaidd yn y DU yn casglu ac yn anfon hen ganhwyllau a rhai a oedd wedi eu defnyddio i Brosiect Cymorth Dyngarol yn Swindon (SHAP). Yno, mae’r hen ganhwyllau’n cael eu toddi a'u troi'n Ganhwyllau ar gyfer y Ffosydd.

Ar ôl cyhoeddi’r fenter mewn gwasanaeth yn ddiweddar, daeth aelodau Eglwys y Santes Fair ac eraill o’r gymuned â chyflenwad helaeth o ganhwyllau hen a newydd i ni eu rhoi mewn dwy sach datws fawr i’w hanfon i SHAP ynghyd â phump o ganhwyllau Pasg y Santes Fair a nifer o ganhwyllau eraill a oedd wedi eu defnyddio ond yn annhebygol o gael eu defnyddio eto.

Danfonwyd y canhwyllau roedden ni wedi'u casglu o’r Santes Fair i warws SHAP lle maen nhw'n toddi'r canhwyllau i greu canhwyllau i wresogi pobl Wcráin yn y ffosydd oer (mae tymheredd y gaeaf yn ddychrynllyd o isel, cyn ised â -30C)

Hyd yn hyn, mae tua 30 tunnell o ganhwyllau wedi'u hanfon i Wcráin. Mae eu seilwaith dan bwysau aruthrol, gydag ardaloedd enfawr o'r wlad yn gyson heb drydan. Mae SHAP yn gofyn i bobl ddychmygu sut brofiad yw goroesi mewn tymheredd mor rhewllyd – o bosibl gyda phlant ifanc neu aelodau hŷn o'r teulu – a chlywed taflegrau yn difrodi adeiladau gerllaw. Dyna yw'r realiti yn y rhan fwyaf o Ddwyrain Wcráin.

Yn warws SHAP, mae hen ganhwyllau yn cael eu toddi a'u troi yn ffynhonnell o olau neu o wres mewn tun o gŵyr gan dîm gwych o wirfoddolwyr. Ffoaduriaid o Wcráin yw llawer ohonynt sydd bellach yn byw yn Swindon. Wedyn mae’r cynnyrch yn cael ei anfon at elusennau yn Wcráin ynghyd â chyflenwadau hanfodol eraill.

Mae hen fysiau wedi cael eu rhoi i SHAP hefyd, ac mae un ohonynt wedi'i drawsnewid yn gyfleuster meddygol sy'n gweithredu yn Nwyrain Wcráin. Mae bws arall wedi'i newid i fod yn Fws Stori i’r Plant. Mae’n teithio o gwmpas Gorllewin Wcráin ac yn ceisio rhoi profiadau difyr a lliwgar i'r plant sy’n cael eu heffeithio gymaint gan ryfel.

Mae Eglwys y Santes Fair, Penfro yn gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â'r prosiect ac mae Eglwys Fair yn gobeithio mynd â llwyth arall o gymorth dyngarol o Dde Penfro o fewn y tri mis nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth am SHAP ar gael ar eu gwefan yn shapuk.org.