Gwrthryfel Llawen
Mae L'Arche UK yn dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant eleni. Mae'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Mary Osborne yn disgrifio sut brofiad yw perthyn i’r mudiad hwn.
Ar 20 Ionawr 2024, pe baech chi wedi taro i grypt Cadeirlan Caergaint, byddech wedi’ch cael eich hun mewn gwledd. Roedd cannoedd o bobl ag anableddau dysgu a heb anableddau dysgu wedi gwasgu i mewn i’r crypt yn chwifio baneri lliwgar, yn dawnsio i gerddoriaeth Abba ac yn byddaru waliau sanctaidd yr adeilad hynafol hwn. Dyma oedd hanner canfed parti pen-blwydd L'Arche Kent, sef y gymuned gyntaf o blith yr un ar ddeg o gymunedau L'Arche ym Mhrydain ar hyn o bryd. Yn ei araith, gofynnodd ein Harweinydd Cenedlaethol: beth ydych chi'n ei wneud pan fydd gwyrth yn digwydd? "Rydych chi'n gweld ac rydych chi'n credu", atebodd llais o’r rhes flaen.
Yn ein blwyddyn Jiwbilî, rydyn ni’n oedi i sylwi ar wyrth ein cymuned. Mae L'Arche yn ffederasiwn rhyngwladol o gymunedau o bobl ag anableddau dysgu a heb anableddau sy'n rhannu bywyd. Rydyn ni wedi ein lleoli mewn un ar ddeg o safleoedd ar draws y DU, o Fanceinion i Aberhonddu i Inverness. Mae cyfeillgarwch, ffydd a dathlu wrth galon y bywyd a rannwn. Ond pan fyddwch chi'n byw yn L'Arche, rydych chi'n dyst i fregusrwydd a phoen yn ogystal â chyfeillgarwch a llawenydd. Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd. Mae'r pandemig, yr argyfwng o ran cyllido gofal cymdeithasol, Brexit a datguddiadau o gam-drin hanesyddol wedi ein brifo. Ac eto, yn wyrthiol, rydyn ni yma o hyd – rydych chi’n gweld, rydych chi’n credu.
Ein thema Jiwbilî yw 'gwrthryfel llawen', rhywbeth sydd ei angen ar frys yn 2024. A ninnau’n bobl ag anableddau dysgu a heb anableddau dysgu, mae’r bywyd a rannwn yn wrthryfel yn erbyn sector gofal sy’n aml yn ddifater a chymdeithas sy'n rhy aml yn gweld pobl anabl yn llai galluog i gynnal perthynas neu fod yn greadigol. Ond, dyna fu ein hanes erioed, gwrthryfela’n llawen yn hytrach na chael ein lladd gan ddicter.
Mae 2024 yn bwysig i L'Arche ond hefyd i'r byd ehangach: bydd dau biliwn o bobl yn pleidleisio mewn etholiadau eleni, mae'r sefyllfa geo-wleidyddol ar ymyl y dibyn, ac mae'r hinsawdd ar ymyl sawl dibyn. Ni allaf esgus bod y chwe blynedd a dreuliais yn L'Arche wedi rhoi atebion i'r cwestiynau hynod anodd hyn. Ond rwyf wedi dysgu sawl peth am fyw gyda'n gilydd mewn byd sy'n brifo ac yn amherffaith: yn dyner, yn llawen, yn wrthryfelgar, yn disgwyl gwyrthiau.
Ymunwch â'n gwrthryfel llawen a gwnewch gais am ein rhaglen fyw, yr Interniaeth Eneidiol. Fe gewch fyw a gweithio ochr yn ochr â phobl ag anableddau dysgu a chael eich tywys drwy raglen ynglŷn ag ymwybyddiaeth ofalgar, ymgorfforiad, a charisma unigryw L'Arche. Dysgwch fwy yn https://www.larche.org.uk/soulful-internship. Fel arall, gallwch noddi intern am flwyddyn. Cysylltwch â ni yn livein@larche.org.uk