Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2025 Sefyll yn gadarn yn erbyn cam-drin domestig

Sefyll yn gadarn yn erbyn cam-drin domestig

Ymddiriedolwraig gydag Undeb y Mamau, Anne Bessant, sy’n annog cynulleidfaoedd i lofnodi'r addewid yn erbyn trais ar sail rhywedd

Mae un o bob tair menyw wedi profi cam-drin domestig ers eu bod yn 16 oed. Yn 2023 fe wnaeth aelodau o Undeb y Mamau addewid i sefyll yn gadarn (Rise Up) yn erbyn pla cam-drin domestig a chodi ymwybyddiaeth, gofalu am oroeswyr a darparu dull ymarferol i helpu i atal trais ar sail rhywedd.

Mae’r llythrennau cyntaf Rise Up yn sefyll am Respond, Inform, Support, Empower, Unite a Pray.

Ymateb i rywun sy’n datgelu achos o gam-drin gyda thosturi a thawelwch

Rhoi gwybod i'r person lle gall gael gafael ar help. Eu cyfeirio at asiantaethau cymorth

Cefnogi mewn ffordd ddiogel, gwrando a chredu

Grymuso yr unigolyn i dyfu a gwella

Uno aelodau o Undeb y Mamau a’n Heglwysi i helpu i roi terfyn ar gam-drin domestig

Gweddïo dros bawb sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig

Yn ein gwasanaeth dathlu ar Ddiwrnod Mary Sumner yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym mis Awst cynhaliwyd arddangosfa o'n prosiectau a'n hymgyrchoedd

Yr un oedd yn ymwneud â cham-drin domestig oedd Souls of Our Shoes. Cafodd llawer o bobl eu symud gan y sylwadau a osodwyd o flaen pob pâr o esgidiau, darlun pwerus o'r bobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Mae arddangosfeydd fel hyn wedi ymddangos ledled yr Esgobaeth. Mae'n estyniad o'n mentrau i dynnu sylw at gamdriniaeth a'r gefnogaeth ymarferol y gallwn ei chynnig i deuluoedd. Gyda gweddi, tosturi, didwylledd a thrwy godi ymwybyddiaeth, gallwn weithio i frwydro yn erbyn cam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd.

MU Souls of Shoes

MU Red Chair

Arddangosfa arall oedd prosiect y Gadair Goch, sy'n cynnwys gorchuddio cadair wag mewn man cyhoeddus gyda darn o ddefnydd coch ac arwydd sy'n tynnu sylw at ffeithiau am drais domestig. Mae'r gadair wag yn symbol gweledol sy’n annog codi llai dros y menywod a'r merched sydd wedi colli eu bywydau i drais.

Mae wedi'i gynllunio ar gyfer pob person o bob cenedl, iaith a chrefydd gyda’r nod o achub menywod a merched ledled ein gwledydd. Mae'n cael ei arddangos yn flynyddol yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr fel rhan o 16 diwrnod Gweithredu Undeb y Mamau. Mewn sawl man, caiff ei arddangos 365 diwrnod y flwyddyn.

Yn fyd-eang, mae menyw neu ferch yn marw dan law partner agos neu aelod o'r teulu bob un ar ddeg munud. Mae angen i ni sefyll yn erbyn yr adfyd hwn a siarad ar eu rhan. Helpwch ni i amddiffyn eraill a'n hunain rhag rheolaeth gan gamdrinwyr heddiw a chamdrinwyr y dyfodol.

Mae Undeb y Mamau yn gofyn i eglwysi lofnodi'r addewid i weithio gyda ni i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd, trwy arddangos posteri dwyieithog Undeb y Mamau ledled Prydain ac Iwerddon.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag annebessant52@gmail.com