Tocio ym Dyfant
Sut siâp sydd ar ein gardd? Yr Archddiacon Paul Mackness fu’n olrhain y cynnydd hyd yma a’r camau nesaf mewn cyflwyniad i’r Gynhadledd Esgobaethol.
Mae Tocio am Dyfiant yn strategaeth esgobaethol sy’n ceisio gwneud dadansoddiad cynhwysfawr, manwl o gryfderau a gwendidau pob eglwys yn Esgobaeth Tyddewi.
Wedi’i lansio ym mis Gorffennaf 2024, mae bellach wedi cyrraedd y cam hanner ffordd, gyda phob eglwys yn cynnal cyfweliadau manwl i nodi nid yn unig eu cryfderau a’u gwendidau, ond hefyd eu nodau a’u dyheadau.
“Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn,” meddai’r Archddiacon Paul wrth y gynhadledd. “Mae’r ffordd y mae plwyfi wedi ymgysylltu [â’r broses] wedi golygu y gallwn eisoes weld arwyddion o dwf mewn rhai mannau.”
Beth yw’r camau nesaf?
Yng Ngham Tri, mae’r Grŵp Garddio, fel y’i gelwir, yn mynd yn ôl at y Cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth Leol gydag argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau Camau Un a Dau. Yna bydd yn ofynnol i’r cynghorau eu rhannu gyda’u priod eglwysi. Y bwriad yw cwblhau’r cam hwn erbyn y Pasg.
Bydd eglwysi yn cael y cyfle i wneud sylwadau ar yr argymhellion sy’n berthnasol iddynt; efallai y byddant am anghytuno. Ond, fel y nododd yr Archddiacon yn glir, “nid feto yw hynny.” Serch hynny, bydd pob argymhelliad yn cael ei ystyried yn llawn a bydd yr argymhellion yn cael eu “mireinio” lle bo angen.
Disgwylir i’r pedwerydd cam, pan fydd yr argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno, ddigwydd rhwng y Pasg a diwedd mis Gorffennaf. Byddant yn cael eu cyflwyno i’r Esgob, yr Uwch Staff, y Bwrdd Cyllid, y Pwyllgor Sefydlog a’r Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol yn ogystal â’r Ardaloedd Gweinidogaeth Leol eu hunain.
Gall y rhain gynnwys cau, er nad oes “rhestr Beeching.” Efallai y bydd newidiadau i’r amserlen; yn yr un modd, bydd achosion o ddefnyddio adnoddau ychwanegol i annog twf, gydag amser yn cael ei ganiatáu i’r newidiadau dilynol fwrw gwreiddiau dros gyfnod o flwyddyn i bum mlynedd.
“Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yn anad dim,” meddai’r Archddiacon wrth gloi, “yw rhoi’r Eglwys ar sail cenhadaeth, lle mae’n edrych allan i ddod â’r rhai y tu allan i mewn i’r eglwys.”