Amdani am yr Aur
Eglwys y Santes Fair, Llan-llwch, yw'r cyntaf yn yr esgobaeth i ennill Gwobr Aur Eglwys Eco. Deon Ardal Weinidogaeth Bro Sanclêr, Ann Howells, sy’n disgrifio eu taith

Dechreuodd ein taith pan oedd y Parch Lorna Bradley yn Gurad. Ei phryder am faterion gwyrdd a’n hysbrydolodd i gychwyn arni. Daeth grŵp bach o aelodau'r eglwys at ei gilydd i fwrw golwg ar holiadur yr Eglwys Eco: Addoli ac addysgu, Adeiladau, Tir, Cymuned ac Ymgysylltu Byd-eang a Ffordd o Fyw.
Fe wnaethom ni ddarganfod ein bod eisoes yn gwneud rhai o'r pethau ar y rhestr, gan gynnwys mynegi pryder am yr amgylchedd yn ein haddoliad ac addysgu a rheoli'r fynwent i annog blodau gwyllt a darparu cynefin i bryfed, infertebratau, adar a mamaliaid. Dyfarnwyd y wobr Efydd i ni ym mis Mai 2022.
Pan ymunodd y Parch Sarah Llewellyn â ni, daeth yn rhan o Grŵp Eco'r eglwys ac fe ddechreuon ni weithio tuag at y wobr Arian. Gwnaeth un aelod o'r eglwys focsys i adar ac ystlumod, ynghyd â stondin bwydo adar hardd ar ffurf drws eglwys.
Fe wnaethom ni edrych yn fanylach ar ein heglwys ac ar ein neuadd eglwys, ac aethom ati i osod cyfarpar gwresogi trydan yn lle'r offer gwresogi olew i leihau ein hôl troed carbon. Cyflwynwyd ein cais am hawleb i osod paneli solar ar do'r eglwys ym mis Medi 2024. Gohiriwyd y prosiect yn sgil gorfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio, oedd ddim yn syml. Dyfarnwyd gwobr Arian yr Eco Eglwys i ni ym mis Gorffennaf 2024.
Wedi'i sbarduno gan y llwyddiant hwn, roedden ni’n gytûn: ‘Amdani am yr Aur’. Mae'r meini prawf ar gyfer y wobr Aur yn llawer anoddach; lluniwyd cynllun rheoli tir ar gyfer ein mynwent, a dyrannwyd y tasgau gydol y flwyddyn. Roedd angen i ni gwblhau arolwg ôl troed carbon 360 gradd cynhwysfawr ar gyfer yr eglwys a'r neuadd gan gynnwys teithio, bwyd a gwariant.

Gosodwyd casgen ddŵr i gasglu dŵr o do'r eglwys ar gyfer blodau, mae dau fin compost wedi'u gosod o amgylch y fynwent ynghyd â dau fin ar gyfer deunydd wedi'i ailgylchu; fe wnaethom yn siŵr bod ein cynhyrchion glanhau yn ecogyfeillgar, ac fe ddechreuon ni ddefnyddio papur a phapur toiled wedi'i ailgylchu. Cynhaliwyd arolwg adar a bywyd gwyllt, cynhaliwyd cyfrif o’r gloÿnnod byw ac arolwg ystlumod.
Mae cynlluniau i'r dyfodol yn cynnwys arolwg o ffyngau, llwybr draenogod sy'n addas i deuluoedd a sesiwn ar adnabod blodau gwyllt a phlanhigion. Yn ystod yr hydref buom yn plannu bylbiau ar gyfer y gwanwyn ac yn gwneud pwll gan ddefnyddio sinc Belfast, a fydd yn ymuno â'r pentwr coed, y cartref i ddraenogod a’r gwesty chwilod i ddarparu cynefinoedd i annog mwy o fywyd gwyllt.
Mae gan 10 o'n 12 eglwys bellach wobrau Eglwys Eco: 1 aur, 3 arian a 6 efydd.
Byddem yn annog mwy o eglwysi i gymryd rhan. Fe gewch chi lawer iawn o hwyl, a byddwch yn helpu'r amgylchedd ac yn darganfod mwy o ryfeddodau creadigaeth Duw ar yr un pryd.