Pobl Dewi: Rhagfyr 2025


Agored i Dduw:
Eiliad o newid ac adnewyddu
Croeso i Flwyddyn y Genhadaeth.
Bydd y flwyddyn – sy’n ddwy flynedd mewn gwirionedd – yn cael ei datblygu o amgylch digwyddiad penodol mawr a gynhelir ar Faes Sioe Sir Gaerfyrddin ar 23 Mai, dydd Sadwrn y Pentecost 2026. Bydd y Sul canlynol yn gyfle i eglwysi ddathlu yn eu hardaloedd eu hunain.
![Sheridan James [Diocesan Conference 25]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Sheridan.width-500.jpg)
Bu Sheridan James, Gweinidog Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn nodi manylion cynlluniau’r gweithgor sy’n goruchwylio'r prosiect mewn cyflwyniad i'r Gynhadledd Esgobaethol.
"Adnewyddu a thyfu yw’r thema," meddai. "Y syniad yw ein helpu ni i fod yn fwy cenhadol gan edrych tuag allan."
Wrth wraidd y cyfan mae Code F: Dathlu, Allgymorth, Disgyblaeth, Efengylu, Brawdoliaeth (Celebration, Outreach, Discipleship, Evangelism, Fellowship).

Gweddïau dros yr Archesgob
Roedd gan dri disgybl o Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi ran flaenllaw yn yr achlysur i orseddu'r Archesgob Cherry Vann yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ar y 9fed o Dachwedd.
Holly Draper (Blwyddyn 10), Padraic Fitzgerald (Blwyddyn 8) ac Eleanor Davies (Blwyddyn 7), arweiniodd y gweddïau ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Caerdydd yn dilyn y seremoni orseddu yn ystod y gwasanaeth.
Roedd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys y bariton o Sir Gaerfyrddin, Owain Wyn Rowlands, a ganodd y Kyrie Cymraeg a berfformiwyd gan Bryn Terfel yng nghoroni'r Brenin.
![Orthodox service 1 [crop]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Orthodox_service_1_crop.width-500.jpg)
Pontio'r rhaniad eciwmenaidd
Gareth Reid, offeiriad plwyf Llandysul, yn disgrifio cydweithio llawen rhwng dau draddodiad Cristnogol
O Gwmpas y Byd

Bukavu: Galw am heddwch
Ein gohebydd o'n Hesgobaeth Gydymaith Bukavu, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, sy’n ystyried trawma rhyfel a goblygiadau adroddiad UNAIDS 2025

Gobaith yn sgil Trasiedi
Theresa Haine sy’n disgrifio sut mae cyllid elusennol wedi dod â chymorth sy’ achub bywydau i bentref ym Madagascar