Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Llenwi gofod yng ngofal canser

Llenwi gofod yng ngofal canser

Angor Cymru logo

Daeth grŵp cymunedol Angor Cymru i fod pan wnaeth grŵp o weithwyr proffesiynol a chleifion gydnabod y gwacter y mae pobl yn ei brofi yn dilyn diagnosis o ganser neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Yr ymddiriedolwraig Anita Huws sy’n esbonio'r hyn maen nhw'n ei wneud a sut.

Mae anghenion unigolion a'u hanwyliaid yn newid yn ystod diagnosis a dyma’r gofod y mae Angor yn gobeithio ei lenwi. Gyda datblygiadau ym maes rheoli canser, mae pobl â chlefyd datblygedig yn ymuno â'r rhai â chyflyrau cronig sy'n cyfyngu ar fywyd. Yng Nghymru, mae gan dros ugain y cant o oedolion salwch cronig.

Aelodau'r Bwrdd

Cafodd y grŵp ei gofrestru fel elusen ym mis Mai 2022. Mae 11 o ymddiriedolwyr a gellir gweld eu manylion yn www.angor.org.uk. Mae gan y bwrdd brofiad yn y sector iechyd, adnoddau dynol, gwaith cymdeithasol, gwasanaethau cyfreithiol, eiriolaeth cleifion a'r trydydd sector. Mae pob aelod o'r Bwrdd wedi ymroi i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael eu harwain gan gleientiaid, ac yn ceisio helpu unigolion a'u hanwyliaid i symud ymlaen mewn bywyd. Mae'r prosiect yn mynd ati i ddatblygu rhaglenni sy'n ymateb i anghenion y grwpiau defnyddwyr.

Gweithgareddau cyfredol

Ar hyn o bryd mae gan Angor swyddfa yn The Cabin, Parc House, Cydweli. Fodd bynnag, mae'r cyfeirio, y gefnogaeth a'r mynediad at weithgareddau ar gael ledled Sir Gaerfyrddin wrth i wirfoddolwyr ddefnyddio lleoliadau dros dro i gynnal digwyddiadau ym mhob cwr o’r sir. Ein nod yw cynnal gweithgareddau misol rheolaidd mewn safleoedd ledled y sir, yn ogystal â darparu mynediad at gymorth ar-lein gyda chyfeiriadau ar y we ar gael i bobl y mae'n well ganddyn nhw fynediad o bell.

Mae'r holl weithgareddau yn rhad ac am ddim. Ymhlith y gwasanaethau sydd ar gael mae ymwybyddiaeth ofalgar, technegau ymlacio, grwpiau darllen a chelf, Tai Chi (yn eistedd ac yn sefyll), cyngor cyfreithiol ac ariannol, gofal gwallt, ioga, cyngor ar golur yn ystod ac ar ôl cemotherapi a therapi cerdd. Rydyn ni’n gweithio yn agos gyda grwpiau cymorth ac elusennau eraill, ac yn hwyluso grwpiau cymorth cleifion dan arweiniad nyrsys, gan gynnig lluniaeth a defnydd o'n gofod swyddfa.

Os hoffech ragor o fanylion neu os hoffech ystyried gwirfoddoli gydag Angor, gellir cysylltu â ni drwy e-bostio support@angor.org.uk; drwy ein tudalen cyfryngau cymdeithasol angorcymru ar Facebook ac Instagram; neu drwy ffonio 07380 125 690.