Croesawu Amrywiaeth
Gyda’r Wythnos Ryng-Ffydd ar y gorwel, mae plant Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Model wedi bod yn darganfod sut mae'n darparu llwyfan hanfodol ar gyfer meithrin dealltwriaeth a pharch ymhlith gwahanol gymunedau crefyddol ac anghrefyddol. Y pennaeth Gail Hawkins sy'n esbonio
Mae'r plant wedi bod yn dadansoddi data cyfrifiad 2021 ac wedi bod yn archwilio tapestri bywiog cymunedau amrywiol Cymru.
Bu’n fodd i'r plant ddarganfod mwy am yr amrywiaeth grefyddol hynod ddiddorol yn eu cymunedau. Trwy eu gwaith ymchwil, gallent weld faint oedd yn uniaethu gyda’r gwahanol grefyddau; ochr yn ochr â'r rhai nad oeddent yn datgan unrhyw grefydd. Bu’n ffordd o wella eu dealltwriaeth ynghylch credoau ac arferion gwahanol a hefyd, bu’n ffordd o hyrwyddo cynwysoldeb a pharch at eraill.
Gyda phob ystadegyn, fe wnaethon nhw ddarganfod gwybodaeth newydd a rhyfeddu at y cefndiroedd, yr ieithoedd a’r traddodiadau diwylliannol cyfoethog sy’n cyfrannu at eu cymunedau, gan gynnwys wrth gwrs, cymuned eu hysgol eu hunain. Cafwyd trafodaethau bywiog, cyfle i rannu straeon am ffrindiau a theulu, a chyfle hefyd i gydnabod sut mae’r gwahaniaethau hyn yn cyfrannu at gymuned gryfach, fwy unedig. Roedden nhw’n sylweddoli bod deall a dathlu'r amrywiaeth hwn nid yn unig yn dyfnhau eu gwerthfawrogiad o'i gilydd, ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o berthyn i’w hunaniaeth Gymreig gyffredin.
Mae ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth hwn yn hanfodol, yn enwedig i blant. Drwy ddysgu am wahanol ddiwylliannau a chredoau o oedran cynnar, mae pobl ifanc yn datblygu ymdeimlad o empathi a dealltwriaeth tuag at eraill. Mae ymgysylltu â safbwyntiau amrywiol nid yn unig yn cyfoethogi byd-olygon plant ond mae hefyd yn eu paratoi ar gyfer cymdeithas fyd-eang lle mae cydweithredu a chydfodoli yn hanfodol. Mae deall a dathlu amrywiaeth yn meithrin cydlyniant cymdeithasol, gan leihau'r tebygolrwydd o ragfarn a gwahaniaethu.
Mae Cymru'n gartref i nifer o grefyddau, o Gristnogaeth i Islam, o Fwdhaeth i Hindŵaeth a thu hwnt. Mae amrywiaeth o'r fath yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ystyrlon, gan alluogi unigolion i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chyfrannu at naratif cytûn o gymuned.
Mae'r Wythnos Ryng-ffydd a'r mewnwelediadau o ddata Cyfrifiad Cymru 2021 yn amlygu'r angen i groesawu amrywiaeth yn ein cymunedau. Trwy flaenoriaethu ymwybyddiaeth, annog perthyn, a meithrin dealltwriaeth, gallwn adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol a chytûn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.