Gwneud yn dda, byw’n iach, gyda'n gilydd
Mae Plant Dewi yn cefnogi teuluoedd ledled Esgobaeth Tyddewi drwy gydol y flwyddyn, ac yn ystod cyfnod Ebrill 2023 – Mawrth 2024, roedd 2885 o deuluoedd wedi manteisio ar grwpiau, canolfannau a'r Banc Bwndel Babi, fel y clywn ni gan y Rheolwr, Catrin Eldred
Mae hynny'n nifer fawr o deuluoedd a fyddai, heb brosiectau Plant Dewi, efallai, ddim yn cwrdd â theuluoedd eraill, ddim yn cael amser gwerth chweil gyda'i gilydd nac yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.
I ddiolch am bopeth maen nhw'n ei wneud, ar 24 Hydref, daeth staff at ei gilydd i fwynhau Diwrnod Encil Lles er mwyn cael hoe, cysylltu â’i gilydd ac ymlacio.
Cynhaliwyd y diwrnod yn yr Hyb Iechyd a Lles Gwell ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin, gyda staff yn dechrau'r diwrnod gyda sesiwn lles ysbrydol, dan arweiniad y Parchedig Justin Arnott, Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol yr Esgobaeth, yn y capel ar y safle. Roedd y ffocws ar gyflwyno staff i les ysbrydol, gydag amser i gysylltu â natur a delweddu.
Yna hwyluswyd sesiwn ddawns Zumba gan Tracey Keeney Fitness, gan ganolbwyntio ar les corfforol, cyn mwynhau cymdeithas dros ginio hyfryd. I gloi, arweiniwyd sesiwn ymlacio gan Elaine Collins, o'r Hyb, a chefnogwyd y staff i glirio’u meddyliau, gan ddadebru’n gorfforol ac yn feddyliol.
Cyn gadael, dywedodd yr holl staff eu bod yn teimlo cymaint yn well nag oedden nhw wrth gyrraedd y bore hwnnw a’u bod wedi elwa ar y cyfle i ddod at ei gilydd a chymryd hoe o brysurdeb bywyd. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.
Mae dod â staff at ei gilydd mor bwysig wrth i ni i gyd fynd ati i wneud ein gwaith mewn gwahanol rannau o'r esgobaeth ac edrychwn ymlaen at ein diwrnod nesaf gyda'n gilydd cyn y Nadolig pan fyddwn ni’n mwynhau sesiwn grefftau a chinio Nadolig.
Os hoffai unrhyw un gefnogi'r Banc Bwndel Babi y Nadolig hwn, ar adeg pan fydd yr atgyfeiriadau i'r prosiect ar gynnydd, gallwch wneud hynny drwy'r ddolen ganlynol - Apêl Nadolig Banc Bwndel Babi Plant Dewi Baby Bundle Bank Apêl Nadolig | Localgiving neu sganio'r cod QR: