Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol.
Mae Christopher Lewis Jenkins yn poeni efallai ein bod ni'n Edrych ond ddim yn gweld, yn gwrando ond ddim yn clywed.
Flynyddoedd lawer yn ôl, mewn bywyd blaenorol, fe fues i’n gweithio i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall mewn hostel yn Holland Park yn Llundain. Roeddwn i'n gogydd yno ac yng nghwmni 30 o breswylwyr a 15 aelod o staff. Roedd yr holl breswylwyr yn gyflogedig, rhai â swyddi cyfrifol iawn.
Roedd un ddynes yn Gynorthwyydd Personol i Is-Farsial Awyr gyda’r Awyrlu Brenhinol. Roedd un arall yn uwch archifydd yn adran Eifftaidd yr Amgueddfa Brydeinig. Roedd hi'n dysgu mathemateg i un o'i chynorthwywyr, ar ôl gorfod dysgu Arabeg yn gyntaf.
Gofynnodd un dyn ifanc am sach nionod er mwyn iddo allu rhoi bag plastig ynddi. Byddai wedyn yn llenwi’r bag â thywod a'i ddefnyddio fel bag dyrnu gan ei fod yn dysgu bocsio. Roedd gwraig arall yn gwirfoddoli gyda’r Samariaid yn ei hamser hamdden. Yn aml wrth ateb galwad, ei hymateb cyntaf oedd "beth yw eich problem, dwi'n hollol ddall". Ymateb heriol ond yr un iawn yn aml, meddai.
Un o’r adegau mwyaf poblogaidd oedd pnawn Sadwrn, pan fyddai pawb yn pentyrru i'r lolfa i wylio’r reslo. Yn aml, roedden ni’n cael tocynnau am ddim i Sioeau'r West End, y sinema, a chyngherddau yn y Royal Albert Hall. Dwi'n cofio mynd i'r sinema i wylio ffilm am ffoaduriaid Iddewig yn ceisio cyrraedd y wlad oedd newydd ei ffurfio, sef Israel. Enw’r ffilm oedd "The Exodus". Roedd hi'n ffilm bwerus ac ar ôl mynd yn ôl i'r tŷ, mi wnes i frechdanau a gwnaeth y trigolion goffi. Yna, fe fuom ni’n trafod y ffilm ac fe wnaethon nhw ddweud wrtha’i am bethau nad oeddwn i wedi'u gweld. Yr oedd, i chwarae ar eiriau, yn agoriad llygad.
Dwi’n cofio sawl achlysur arall pan mai fi fyddai’n teimlo fel yr "un anabl" mewn gwirionedd. Mae edrych yn ôl dros yr holl flynyddoedd yn gwneud i mi feddwl am Gristnogion sy'n colli pwynt dysgeidiaeth Iesu. Maen nhw'n mynychu'r eglwys ond yn colli'r hyn sy'n amlwg o'u blaenau ac yn gwrando ar bregethau ond ddim yn clywed beth sy'n cael ei ddweud. Maen nhw'n creu eu crefydd eu hunain mewn ffordd. Ond, os ydyn ni'n credu bod Iesu yr un fath, ddoe, heddiw ac yfory, yna mae'r hyn oedd yn iawn pan gerddodd ar y ddaear yn iawn hyd heddiw.
Allwn ni ddim plesio holl fympwyon cymdeithas. Wrth i ni nesáu at ben-blwydd ei enedigaeth ar y ddaear hon, cofiwn am ei dosturi, ei addfwynder, ei gariad.
A gaf i ddymuno Nadolig bendigaid a bendithiol i chi, yn enwedig staff Pobl Dewi am eu gwaith caled yn cynhyrchu cyhoeddiad gwerth chweil.