Hanesion Plentyndod Ficerdy
Siopa. gydag Eluned Rees
Gan mai mewn pentrefi y cefais fy magu, doedd dim llawer o siopau na siopa! Yn Llwyndafydd, roedd siop a dau bwmp petrol, ac yn gwerthu pob math o bethau mewn adeilad pren â to sinc. Ynddi roedd bwyd anifeilaid, llysiau a ffrwythau, tuniau a bara ac offer garddio, moddion a losin, yn debyg iawn i siop ‘Open all Hours’ ar y teledu. A gan bod y teulu’n byw mewn stafell fach yn y cefn, ac ond yn symud gyda’r nos i fynd i gysgu mewn adeilad bach cyfagos, ar agor bob awr o’r dydd y bydden nhw!
Yn Llangyndeyrn roedd y Swyddfa Post, gyda Jac Smith, y clochydd , eglwyswr ffyddlon ac yn ddarllenydd lleyg, yn ei gadw. Roedd hefyd yn siop fach,a gallem gerdded lawr i brynu ambell beth i’n mam , menyn, bara, tuniau, yn ogystal â stampiau. Roedd pwmp petrol hefyd yno, a gallem gael ‘Green Shield stamps’ i gynilo i gael rhywbeth o gatalog.
Ond siop Dai Smith, brawd Jac, oedd y mwyaf cyffrous, gyda losin oedd yn hŷn na ni blant! Roedd paraffin yn cael ei werthu yn y cefn, a’r holl le yn dywyll, yn debyg iawn i rywle o oes Dickens. Roedd bisgedi wedi torri ar werth hefyd. Ceiniogau byddem yn eu gwario, ar bethau fel licorish a ‘flying saucers’ ,er bod rheiny mor hen nes eu bod fel bara cymun! Roedd bybl gym Bazooka Joe, mewn papur pinc, Lucky dips a Sherbert Fountains.
A pwy sy ddim yn cofio esgus ein bod yn smygu gyda sigarets melys, mor soffistigedig! Lwcus bod deintydd yn dod i’r ysgol bob hyn a hyn, roedd ein dannedd siŵr o fod yn ofnadwy.Doedden ni ddim yn cael arian poced yn blant bach, dwyf fi ddim yn credu ei bod yn arfer bryd hynny, ond byddem yn cael arian gan ymwelwyr neu deulu, ac wrth ein bodd yn prynu fflwcs yn siop Dai.
Dai Smith hefyd oedd yn dod â’r ‘Western Mail ‘ a’r ‘Carmarthen Journal’ i’r tŷ . Roedd Dai yn ffynhonell holl glecs y pentre,ac os oedd ein car mâs o’r garej tu ôl i’r ficerdy, byddai’n holi ‘Ble mae i fod heddi te?’
Caerfyrddin oedd ein man siopa bwyd, Liptons, a Home and Colonial. Doedd dim archfarchnad, a gwerthwyd popeth mewn cwdyn papur. Roedd cigydd, dyn pysgod ac wrth gwrs y dyn llaeth yn dod i’r pentre. Bwyd syml, ffres ac iach oedd pawb yn ei fwyta, ac yn ei dyfu gan amlaf yn eu gerddi.