Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Arloeswr iaith

Arloeswr iaith

Bydd Sir Benfro yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026, dim ond y pumed tro i’r ŵyl gael ei chynnal yn y sir. Richard Davies yn cofio mab enwog o'r sir, a anrhydeddwyd yn ystod ymweliad blaenorol.

Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Hwlffordd yn 1972, bu na seremoni yn Eglwys y Santes Fair, Casmael, i anrhydeddu a dadarchuddio cofeb i Gymro a wnaeth lawer yn ei ddydd dros ein hiaith. Y gŵr oedd y Parchedig William Gambold, rheithor Casmael a Llanychaer rhwng 1709 – 1728.

William Gambold plaque

Beth a wyddom amdano? Wel, trwy ddarllen y gofeb yn yr eglwys a’r hyn a ddywedir amdano yn y Bywgraffiadur, dysgwn taw brodor o Aberteifi ydoedd a cafodd ei eni yno ar 10fed Awst 1672. Fe fatricwleiddiodd yn Neuadd y Santes Fair, Rhydychen, yn 1693, ond nid oes tystiolaeth iddo raddio. Tra yn Rhydychen, fe gynorthwyodd Edward Lhuyd yn ei ychwanegion tuag at argraffiad Gibson o Britannia Camden.

Ond nôl i Orllewin Cymru y daeth Gambold ac fe ddaeth yn rheithor Casmael a Llanychaer ar 1af Ragfyr 1709, ond efallai ei fod yn gurad yno cyn y dyddiad hyn gan fod sôn amdano yn cadw ysgol yn Llanychaer yn 1707. Yn ôl ei fab roedd yn offeiriad plwyf cydwybodol dros ben!

Ond y rheswm pam y cofiwn William Gambold erbyn heddiw yw ei ymdrechion dros yr iaith. Pan ond yn ei dri-degau roedd Gambold wedi dangos diddordeb mewn cynhyrchu geiriadur Cymraeg a chredir iddo ddechrau ar y gwaith yn 1707. Yn dilyn damwain a olygodd na fedrai wneud ei waith offeiriadol, gorffen y geiriadur oedd prif amcan ei fywyd ac erbyn 1722, roedd y dasg fawr wedi ei gorffen. Yn anffodus methodd ddod o hyn i’r arian angenrheidiol i gyhoeddi y llyfr ond mae’r ddogfen wedi goroesi ac mae bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Serch ei fethiant i gyhoeddi y geiriadur, fe lwyddodd i gyhoeddi A Grammar of the Welsh Language yn 1727.

Bu farw William Gambold ar 13 Medi 1728. Dadorchudiwyd y gofeb iddo yn 1972 gan John Gambold o Coatesville, Indiana, ac mae’r teulu yn parhau i ddal cyswllt efo Eglwys Casmael tan heddiw.