Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 (GDg(Ll)): beth ddysgom ni?

(GDg(Ll)): beth ddysgom ni?

Y mae Rhiannon Johnson, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yn cyflwyno ambell gynnig

Ers y cychwyn, casglodd prosiect ymchwil parhaol data ystadegol am y rhai a gynigiodd am y weinidogaeth hon. Yn ddiweddar casglwyd hefyd data o grŵp safonol yn cynnig am weinidogaeth cyflogedig. Y mae’r ffigyrau hyn nawr yn ddigon mawr i ni allu dod i rai casgliadau.

Yn gyntaf, dysgwyd bod GDg (Ll) yn gweithio. Y mae ein cynllun, mewn partneriaeth â Sant Padarn, wedi hyfforddi 61 o offeiriaid ac un diacon nodedig. O’r rhain, yr oedd pump i esgobaethau eraill, un wedi bwriadu bod yn GDg o’r dechrau a thri gyda theimlad cryf ynghlwm â’u ‘lleol’. Y mae 21% o’n clerigwyr esgobaethol yn GDg(Ll) ond os cynhwysir y rhai a hyfforddwyd fel GDg(Ll) ond wedi symud at gyflogedig mae’r rhif yn codi i 32%.

O dan Esgob Joanna, gofynwyd i ganran arwyddocaol o’r rhai a hyfforddodd fel GDg(Ll) i ystyried bod yn gyflogedig, yn enwedig y rhai ifanca ac yn gallu cynnig gweinidogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n angen enfawr o fewn ein Hesgobaeth. Y mae tua 20% o rheiny wedi trosglwyddo. Yn hanfodol, y mae rhain yn fwyaf pobl na fyddent wedi neu’n gallu dilyn y llwybr mwy traddodiadol ond wedi tyfu mewn hyder a phrofi eu gallu yn y weinidogaeth dros amser.

Y mae pobl sy’n cynnig eu hunain i GDg(Ll) yn fwy tebygol o fod yn siaradwyr y Gymraeg na rhai sy’n cynnig am weinidogaeth gyflogedig. Maent yn dod o bob rhan o’r esgobaeth. Y mae’r ystod oed yn llawer mwy eang na’r rhai sy’n cynnig am weinidogaeth gyflogedig, fel y disgwylid, ond y mae’r ystod eang o brofiad hefyd i’w weld mewn swyddi blaenorol, profiad blaenorol yn yr eglwys, cefndir addysgiadol a phrofiad eglwysig. Y maent yn fwy tebygol o fod yn perchen ar eiddo na’r grŵp safonol, ond gall bod hyn yn ymwneud ag oed yn hytrach nag unrhyw beth arall. Y mae llawer, ond nid pob un, wedi bod yn wardeniaid , Darllenwyr neu Arweinyddion Addoliad.

Y mae ymgeiswyr GDg(Ll) yn llawer mwy tebygol i fod yn gyflogedig na’r grŵp safonol, ac ar y cyfan yn dod â phrofiad o waith siop a chemeg llifio, archaeoleg a phensaerniaeth, perchnogaeth siop tatŵ ac arlwyo, nyrsio, dysgu, ffermio a choedwigaeth – y mae’r ystod yn enfawr. Maent wedi dod â llawer o arbenigedd y mae’r esgobaeth yn elwa ohono.

Un agwedd ddiddorol yw bod llawer o’r GDg(Ll) yn dod â hanes o addysg doredig, yn gadael ysgol yn gynnar ond yn dychwelyd yn hwyrach i ennill cymwysterau academaidd a phroffesiynol. Maent yn bobl sy wedi dangos ystwythder ac wedi ymateb yn dda i newidiadau bywyd.

Y mae ein ystadegau’n dangos bod, yn llethol, eu bod yn byw’n lleol, naill ai wedi byw neu wedi addoli yn y man ble maent yn dymuno gwasanaethu am fwy na deng mlynedd. Ymysg y rhai nad ydynt yn ymddangos yn y ffigyrau y mae nifer sy wedi symud i ffwrdd am gyfnod ac yna dychwelyd adre. Mae’r grwp safonol yn llawer llai gwreiddiedig.