Cael gwared o'r plastig
A oes cwpanau, cyllyll a ffyrc, platiau neu wellt yfed plastig defnydd sengl, yn dal gyda chi yng nghypyrddau eich eglwysi? Mae’n bryd cael gwared ohonynt.
Daeth Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Defnydd Sengl) (Cymru) i rym ar Hydref 30ain.
Ers hynny, mae yn erbyn y gyfraith i eglwysi ddosbarthu’r eitemau plastig defnydd sengl canlynol, hyd yn oed os ydynt yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim.
- Platiau defnydd sengl - mae hyn yn cynnwys platiau papur sydd ag arwynebedd plastic wedi ei lamineiddio arnynt.
- Cyllyll a ffyrc plastig defnydd sengl e.e. ffyrc, llwyau, cyllyll
- Teclynnau troi diod plastig defnydd sengl
- Cwpanau wedi eu gwneud o bolystyren ehangedig neu o ewyn wedi ei allwthio.
- Prennau balŵn plastig defnydd sengl
- Bydiau cowtwm â choesau plastig defnydd sengl
- Gwellt yfed plastig defnydd sengl - ag eithrio pobl sydd â’u hangen i fwyta neu yfed yn ddiogel ac a fydd felly’n parhau i’w defnyddio’n annibynnol.
A cham un yn unig yw hwn. Bydd cam dau sy’n orfodol erbyn gwanwyn 2026 yn ychwanegu eitemau eraill megis bagiau siopa plastig i’r rhestr.
Mae eu gwaredu’n fwy anodd nag y tybiech. Mae nifer o gynghorau’n gwrthod casglu’r eitemau yma fel rhan o’u cynlluniau ail gylchu. Mae hyn yn golygu y byddant yn fwy na thebyg yn cael eu casglu ynghyd â gwastraff cyffredinol ac yn mynd yn y pen draw i safleoedd tirlenwi.
Mae plastig defnydd sengl yn diraddio’n araf iawn ac yn ffurfio gronynnau meicroblastig nad ydynt byth yn diflannu. Y newyddion da, fodd bynnag, yw bod yna ddigon o ddefnyddiau biodiraddadwy amgen i blastig defnydd sengl.