Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 GDg(Ll) Parch. Beth Davies

GDg(Ll) Parch. Beth Davies

Profiad Bythgofiadwy

Ar ôl bod yn ddarllenydd lleyg am flynyddoedd ac yn cymryd gofal yr eglwysi lleol pan nad oedd ficer o fewn y plwyf, yr awgrym gan lawer o`r aelodau oedd i mi gael fy ordeinio. O fewn fy swydd fel athrawes a pharatoi ar gyfer y Sul, doedd dim llawer o amser i wneud dim byd arall ac roedd y syniad o fynd i ffwrdd i astudio am ychydig o flynyddoedd yn amhosibl. Mae fy nghalon i yma yng nghefn gwlad lle rwyf wedi cael fy ngeni a`n magu.

Braint o`r mwyaf oedd cael fy ordeinio yn ddiacon yn 2016 a bod yn gurad yn ardal fy magwraeth. Ymhen dwy flynedd, ar ôl llawer iawn o brofiadau gwerthfawr, cefais y cyfle breintiedig i fod yn offeiriad llawn amser, ac yn wir roedd hyn yn fraint o`r mwyaf. Roedd dysgu yn rhan bwysig o mywyd ac roeddwn yn hoff iawn o gael gweithio yng nghwmni plant, ond roedd yr alwad mor gryf fel nad oedd posibl troi`r cyfle i lawr.

Roedd newid cwrs bywyd yn brofiad bythgofiadwy ac yn anodd iawn, ond roedd gwasanaethu ymysg ffrindiau yn hyfryd a chefais yr holl gefnogaeth gan aelodau`r eglwysi.

Daeth tro ar fyd yn fuan iawn yn 2020 a chefais fy ngalw i fod yn ddeon bro ac offeiriad plwyf mewn ardal arall. Ie, cyfle gwych OND ar ôl dau Sul o wasanaethu fe ddaeth COVID i`n rhan a minnau hyd yn oed heb gymryd gwasanaeth mewn pob un o`r chwe eglwys. Hunllef gan nad oeddwn yn adnabod llawer a heb unrhyw gysylltiad â nhw. Ar y pryd camgymeriad mawr oedd derbyn yr alwad ac felly y bûm yn teimlo am sawl mis. Rhaid i mi ddweud diolch am wasanaeth Zoom a dyna lle y cefais i gwrdd â llawer o`r aelodau am y tro cyntaf un. Roeddwn wedi gorffen dysgu hefyd ac roedd yna hiraeth mawr gan nad oeddwn yn medru mynd i mewn i ysgolion y plwyf.

Ond gyda gras a chymorth Duw mae fy mywyd erbyn hyn yn llawn breintiau a hyfrydwch gydag aelodau'r chwe eglwys. Mor gefnogol a da yw cael cydweithio a chymdeithasu o fewn ardaloedd newydd er yr hiraeth o beidio bod yn rhan o eglwysi fy magwraeth, ond mynd y mae amser a newid y mae`r byd ac os ydych chi`n barod i wrando ar alwad Duw fe ddaw pethau amhrisiadwy i`ch bywyd .