Rwy’n gweld dieithriaid!
Hoffech chi wybod pa greaduriaid sy'n ymweld â'ch mynwent leol pan nad oes neb o gwmpas? Beth am osod trap camera syml i’w darganfod
Gellir prynu’r rhain gan gyflenwyr arbenigol – y Natural History Book Service neu NatureSpy er enghraifft, sy’n costio rhwng £100 a £200. Efallai y gallai clwstwr o eglwysi brynu un gyda’i gilydd?
I sefydlu trap, dewch o hyd i'ch lleoliad yn gyntaf. Mae angen iddo fod yn isel i'r llawr er mwyn codi anifeiliaid bychain fel draenogod. Glaswellt byr sydd orau, er mwyn osgoi llystyfiant sy’n chwifio a fydd yn cychwyn y camera sy’n ymateb i unrhyw symudiad. Mae angen i'r camera ei hun fod yn glwm wrth rywbeth cadarn fel coeden, polyn neu adeilad. Dewch o hyd i le cymharol ddiarffordd lle mae'n annhebygol y bydd ymwelwyr yn sylwi arno, mae'r camerâu hyn yn tueddu i fod mewn lliwiau cuddliw ac anaml y cânt eu gweld, yn enwedig os ydynt wedi'u hamgylchynu gan lystyfiant neu bren marw. Ceisiwch leoli'r camera mewn man y mae anifeiliaid yn debygol o'i ddefnyddio, ar hyd llinell perth neu wal er enghraifft. Gallai gosod y camera i wynebu dysgl fas gyda dŵr ynddi ddatgelu llawer o greaduriaid yn oedi am ddiod neu ymdrochi, yn enwedig mewn tywydd twym. Efallai y byddwch hyd yn oed yn rhoi rhywfaint o fwyd allan fel bwyd cath neu fenyn cnau daear i ddenu ymwelwyr newynog!
Mae digon o wybodaeth am ddefnyddio trapiau camera ar y rhyngrwyd; bydd ychydig o ymchwil yn eich helpu i ddewis yr un iawn i chi. Unwaith y bydd yn ei le, bydd angen gwirio'r camera a gellir lawrlwytho'r ffilm fideo neu'r lluniau ac ailwefru'r batris. Mae gweld yr hyn sydd wedi ei ddal ar y camera yn llawer o hwyl, yn arbennig o bleserus i bobl a allai fod â symudedd cyfyngedig ac sy'n llai abl i wylio bywyd gwyllt yn uniongyrchol. Ar ôl ei brynu, gallwch ddefnyddio'r camera nid yn unig yn eich mynwent, gall daflu goleuni ar y bywyd gwyllt sydd i'w gael mewn mynwentydd eraill, mewn gerddi, tiroedd ysgol a lleoliadau eraill, yn enwedig gyda'r nos. Gallech ddisgwyl gweld adar a mamaliaid fel llygod, llygod pengrwn a gwiwerod. Mae llwynogod yn debygol o fod yn ymwelwyr ac mae draenogod yn teithio dros ardal fawr yn y nos felly mae'n ddigon posib y byddan nhw'n dod heibio, yn enwedig os ydych chi'n cynnig rhywbeth blasus i'w fwyta!