Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 CL: Tyfiant ac hydwythder

CL: Tyfiant ac hydwythder

Paul Mackness at GB [0923]

Mae Paul Mackness yn adrodd nôl yn dilyn cyfarfod o’r Corff Llywodraethol yng Nghasnewydd.

Yn ei araith fel llywydd ar gychwyn y C.Ll., bu’r Archesgob yn annog yr esgobaethau i “dorri tir newydd” yn eu cynlluniau ar gyfer Cronfa Tyfiant yr Eglwys ( y £100 miliwn ar gael oddi wrth y Corff Cynrychioladol). Rhagflas oedd hwn o’r hyn oedd i ddod, wrth i’r aelodau yn ddiweddarach gael eu gofyn i weithio fel grwpiau ac i edrych ar Flaenoriaethau, Tyfiant ac Hydwythder.

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried chwe chwestiwn:

  • Pan wnaethoch chi ymuno â’r Corff Llywodraethol ar y cychwyn, beth oedd eich disgwyliadau a pha mor agos i realiti yw’r disgwyliadau hynny?
  • Beth, o fewn y C.Ll., ddylsen ni ddechrau gwneud, stopio gwneud a pharhau i wneud?
  • Beth yw’ch ymateb i’r blaenoriaethau ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru fel y’u gosodwyd gan yr Archesgob?
  • Beth yw’r ffordd orau i’r C.Ll. a phob esgobaeth gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yn eich Ardal Leol?
  • Beth sy’n ein hatal ni rhag tyfu?
  • Pe baech yn cael cyfarfod wyneb yn wyneb â’r Archesgob, beth fyddech chi’n ei ddweud wrtho?

Roedd sesiwn lawn ar y diwrnod wedyn a fydd, ochr yn ochr ag adborth ysgrifenedig o’r gwaith grŵp, yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Sefydlog y Dalaith. Mae’r mesur yma’n golygu pe bai’r coleg yn methu ethol esgob, mae yna gyfle i’r coleg gyfarfod am yr ail dro cyn ei drosglwyddo i Fainc yr Esgobion er mwyn gwneud apwyntiad. Rhoddwyd i gyfarfodydd anffurfiol blaenorol y Coleg a ddaeth cyn y Coleg Etholiadol, statws gyfansoddiadol, a byddai nawr yn rhaid i’r rheolau a osodwyd gan bob Coleg gael eu cyhoeddi yn y cyfarfod C.Ll. nesaf i ddilyn.

Pasiwyd gwelliant cyfansoddiadol i ganiatáu i Ardaloedd Gweinidogaethol ddod yn Sefydliadau Elusennol Corfforedig wedi gwaith helaeth gan y Comisiwn Elusennol ar y cyd ag Adran Gyfreithiol y C.Ll.. Bu dau o’n Hardaloedd Gweinidogaethol Lleol yn beilot ar gyfer hyn. Bydd arweiniad pellach yn cael ei roi cyn hir.

Ar ddiwedd y C.Ll. talwyd teyrnged gan yr Archesgob i’r Esgob Joanna ar ei hymddeoliad. Daeth y cyfardod i ben gydag eitem newydd, Siars yr Archesgob. Anogodd yntau’r aelodau i fod yn “ffurfwyr y naratif a’r agenda yr ydym yn eu rhannu â’n gilydd o fewn y cymundeb” ac i’w rhaeadru i eraill gan fod yn astud i’r bywyd a’r amser fel y maent ac i glywed yr hyn yr oedd Duw yn ei wneud yn y byd.