Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Grymuso Cymunedau

Grymuso Cymunedau

Mae Andrew Sully wedi bod yn gweithio’n llawn amser gyda Chymorth Cristnogol ers mis Mai yn llanw bwlch mamolaeth Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, Mari McNeill, tan fis Chwefror nesaf.

Mae Cymorth Cristnogol yn sefydliad anhygoel o ran lefel yr ymroddiad a welaf ymysg staff a’u hawydd at beri newid er gwell. Gall yr Eglwys yng Nghymru fod yn wrthun at newid ar adegau ond mae newid yn teimlo fel rhan annatod o ‘DNA’ mudiad Cymorth Cristnogol. Ceisiwn wella’r byd ar gyfer y gwledydd tlotaf wrth alluogi’r cymunedau ble rydym yn gweithio drwy addasu, hyfforddi ac adsgilio’r rheiny sy’n cael eu effeithio fwyaf gan newidiadau hinsawdd.

Mae gennym dîm bychan yng Nghymru sy’n cefnogi unigolion a grwpiau codi arian, yn hybu ymgyrchu a gweithredu a galluogi grwpiau i addoli wrth ddarparu deunydd litwrgaidd dwy-ieithog a siaradwyr ble bod gofyn. Rydym bob un yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae fy rôl penodol i yn ymwneud â chydweithio gydag arweinwyr eglwysi a’r cyfryngau er codi proffil gwaith Cymorth Cristnogol. Trefnais ymgyrch feicio o ogledd i dde Cymru er codi arian ym mis Gorffennaf a llwyddwyd i godi £5000, llwyddwyd hefyd i gael perswâd ar yr Esgob Mary (Llandâf) i redeg hanner marathon Caerdydd ar ddechrau mis Hydref fel ymgyrch codi arian.

Mae ymgyrchoedd fel hyn, a’u cynnal ar wahân i Wythnos Cymorth Cristnogol, yn ein galluogi i gyrraedd targedau blynyddol yng Nghymru a hynny yn ei dro yn gwella’r cyllid blynyddol ddaw wrth y sefydliad canolog yn Llundain. Yn ogystal â hyn, mae apeliadau enwadol, fel yr un gan yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru yn ddiweddar a gododd £160,000 a’r apeliadau cyfredol Undeb yr Annibynnwyr yng Nghymru ac Undeb y Bedyddwyr yng Nghymru, yn galondid mawr inni.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i ddulliau gorau o gynnig adnoddau o fewn Esgobaeth Tyddewi a gorllewin Cymru drwyddi gan fod y Parch Tom Dafis, oedd yn cynnal a chefnogi cefnogwyr sylfaenol Caerfyrddin, wedi ymddeol ond heb ei adnewyddu â phenodiad newydd. Ydy hi’n bosib y gellid ateb y gofyn drwy sefydlu hybiau lleol o weithredwyr a allai ymgasglu o bryd i’w gilydd yn nhrefi’r esgobaeth, wedi eu hadnoddu fesul gweithgareddau lleol neu wasanaethau a chyfarfodydd yn benodol ar gyfer codi arian?

Rhowch wybod eich barn a’ch syniadau o ran sut y gallwn barhau i fod yn elusen allweddol a hygyrch o ran cymorth a datblygiad dyngarol.

asully@christian-aid.org