Llwythi o eirin
Ydych chi wedi sylwi faint o eirin celyn sy ar gael ym mis Tachwedd, ond dim pan fyddwch chi eu hangen amser Nadolig? Y mae Harriet Carty, o ‘Caring for God’s Acre’ yn egluro’r rheswm.
Yr Hydref yw’r tymor gorau i fwynhau eirin ac y mae eleni wedi bod yn gyfoethog tu hwnt, gyda choed y ddraenen wen yn oren llachar. Y mae cyfuniad o wanwyn sych, cynnes ac haf gwlyb wedi arwain at y canlyniad hwn.
Y mae eirin yn ffynhonnell bwyd hanfodol i lawer o adar ac anifeiliaid sy’n adeiladu eu stôr o egni cyn y gaeaf, felly y mae llawer yn cael eu bwyta rhwng nawr a’r Nadolig.
Edrychwch am aelodau o deulu’r fronfraith yn cynnwys y fronfraith fawr a’r fronfraith fach. Y mae mudwyr y gaeaf yn cyrraedd yn yr hydref felly gallwch weld coch yr adain a’r sogiar yn eich mynwent yn bwydo ar yr ywen a choed sy’n tyfu eirin eraill megis y gelynen, y ddraenen wen a’r gerdinen.
Y mae cnofilod megis llygod, llygod y dŵr, llŷg a gwiwerod yn bwyta ystod o eirin gydag anifeiliaid llai amlwg yn cynnwys llwynogod, moch daear a draenogod. Y mae ceirw yn dwli ar blanhigion o deulu’r Rosaceae sy’n cynnwys rhosod a mieri a byddant yn tynnu’r eirin yn ofalus. Y mae mieri sy’n cario mwyar duon yn boblogaidd ac yn bwydo ystod o adar, anifeiliaid ac hefyd bryfed. Gallwch ddod o hyd i ran nesaf y we fwyd gyda chorynnod yn creu gwe i ddal creaduriaid sy’n cael eu denu i’r eirin.
Os byddwch yn plannu llwyni yn eich mynwent beth am ddewis rhai sy’n cario eirin, yn enwedig mathau brodorol fel rhosod piswydden. Os oes gennych lwyni neu berth ceisiwch beidio â thocio nes bod y tymor eirin ar ben. Y mae diwedd y gaeaf yn adeg da i docio perthi a llwyni, mae hyn yn rhoi i’r adar ac anifeiliaid fwyd, a chysgod oddi wrth dywydd gaeafol ( ac oddi wrth ysglyfaethwyr megis cathod) tra’n trefnu pethau cyn bod yr adar yn dechrau nythu yn y gwanwyn.
Byddem yn hoffi clywed pa anifeiliaid a welwch chi’n bwyta eirin yn eich mynwent, rhowch gofnod ar iNaturalist neu cysylltwch â ni ar ebost: harriet@cfga.org.uk