Dagrau Artsakh – Difliniad Nagorno-Karabakh
Mae gen i gerfiad bychan o hen wraig gyda phenwisg traddodiadol o siap Mynydd Ararat (mynydd sanctaidd yr Armeniaid) a henwr barfog. Mae’n gopi o gerflun anferth yn ninas Stepanakert, prifddinas Nagorno-Karabakh, a grewyd o garreg gan Sargis Baghdassaryan yn 1967. Teitl swyddogol y cerflun yw ‘Ni yw ein Mynyddoedd’ ond y llysenw sydd ganddo yw ‘Papik a Mamik’ sef ‘Mamgu a Thadcu’. O dan fy nghopi pren yw’r gair ‘Artsakh’ mewn llythrennau unigryw yr wyddor Armeneg. Artsakh yw hen enw Armenaidd Nagorno-Karabakh.
Rhan ddatganoledig o Azerbaijan yn ystod y cyfnod Sofietaidd oedd Nagorno-Karabakh, ond gyda chwymp y drefn Gomiwnyddol datganodd â'r wlad fechan ei hannibyniaeth gan obeithio i gael uno ag Armenia cyfagos yn y pen draw. Doedd Azerbaijan Islamaidd ddim yn fodlon colli’r dalaith. Enilliodd Armeniaid Cristnogol Artsakh eu rhyddid mewn rhyfel gwaedlyd rhwng 1991 a 1994. Pan ymwelais a’r wlad yn 2008 a 2009 cefais yr agraff ei bod yn weddol sefydlog. Cwrddais ag Esgob Armenaidd Artsakh (cymeriad tebyg i'n hen Esgob Ifor Rees), offeiriaid a gweithwyr dyngarol.
Canolfan ysbrydol bwysicaf Artsakh yw Eglwys Gadeiriol Gandzasar, campwaith penseiriol a godwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yn yr un cyfnod cynhyrchwyd llawer o groesfeini addurniedig hardd yn yn Artsakh, yn ogystal â llawysgrifau prydferth. Mewn un Efengyl addurniedig mae Iesu a’I ddisgyblion o amgylch bord gron a'i gyfer y Swper Olaf. Croes gywrain â chylch a’i hamgylch yw’r ford sydd yn debyg i Groes Abraham yn Nhyddewi.
Dechreuodd y dadfeiliad yn 2020 gyda’r Ail Ryfel Karabakh. Gwlad gyfoethog sy’n allforio olew yw Azerbaijan, gyda’r gallu i brynu arfau ac offer milwrol soffistigedig. Daeth cadoediad ar ôl i Artsakh golli llawer o dir. Addunodd Rwsia i amddiffyn y trigolion Armenaidd. Ond gyda’r ymosodiad ar Wcrain newidiodd eu hagwedd. Parhaodd blocêd gan Azerbaijan ar yr unig ffordd rhwng Armenia ac Artsakh am naw mis heb ymyrraeth gan y Rwsiaid. Mewn un diwrnod o ymladd yn gynharach eleni cipiodd Azerbaijan weddill y wlad fechan.
Ffoiodd tua 120,000 o Armeniaid ethnig i geisio lloches yn Armenia, sydd ei hunan yn wlad dlawd. Bellach enw Stepanakert yw Kkankendi. Dwi ddim yn siwr pa mor hir bydd cerflun ‘Papik a Mamik’ yn goroesi. Mae Armeniaid Cymru a’u ffrindiau wedi codi swm sylweddol i helpu plant y ffoaduriaid digartref o Artsakh. Os ewch i Dyddewi, a wnewch chi weddïio drostynt wrth fynd heibio’r gofeb Armenaidd? Diolch o galon.
Patrick Thomas