Darganfod trysor!
Mae Beibl anhysbys o 1620 wedi ei ddarganfod diolch i ymweliad un ysgol â llyfrgell Cadeirlan Tyddewi.
Cyrhaeddodd disgyblion Ysgol Dyffryn Taf, Hendygwyn, y llyfrgell yn cario bag siopa gyda hen lyfr ynddo - llyfr a ddarganfuwyd yn yr ysgol.
Wrth lwc fe wnaeth Mari James, Swyddog Datblygu'r Llyfrgell, adnabod y llyfr yn syth a sylweddoli mai copi o Feibl Cymraeg 1620 a gyfieithwyd gan yr Esgob Richard Parry ydoedd - beibl sy'n dathlu ei bedwar canmlwyddiant eleni.
Mae disgyblion Ysgol Dyffryn Taf wedi paratoi fideo fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau rhithiol a gynhelir gan Lyfrgell Cadeirlan Tyddewi yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd y DU Hydref 5ed - 10fed.
Yn y fideo ceir hanes ymweliad yr ysgol â'r Gadeirlan fel rhan o raglen "Turbulent Tudors" sy'n cael ei redeg gan Adran Addysg y Gadeirlan. Roedd ymweld â'r llyfrgell i weld llyfrau prin o'r 16eg ganrif ymlaen, yn rhan o'r diwrnod:
https://www.youtube.com/channel/UCncOKz_Y5XSh4CO9aR6qEnQ/videos
“Mae ymweld â'r Gadeirlan bob amser yn brofiad cyffrous," medd Mrs Rosie Davies, athrawes yng Nghyfadran Dyniaethau Ysgol Dyffryn Taf, “ond roedd darganfod bod gennym ddarn o hanes Cymru yn yr ysgol, a hwnnw'n 400 oed, yn fythgofiadwy!"
Gellir gweld mwy o ddigwyddiadau digidol a rhithiol sy'n cael eu cynnal yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd ar wefan Llyfrgell Cadeirlan Tyddewi:
https://www.stdavidscathedral.org.uk/discover/library
Yn ystod yr wythnos mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae llyfrau allweddol yn y casgliad unigryw yn berthnasol i'n sefyllfa ni heddiw mewn amryw o ffyrdd. Ceir astudiaeth o'r tebygrwydd rhwng pandemig y coronafeirws a llyfr meddygol o'r ddeunawfed ganrif; defnyddir gwaith cyfreithiol o 1505 i edrych ar ddatblygiadau yng nghyfraith yr eglwys; ceir cymhariaeth rhwng rhai o rannau allweddol adeilad y Gadeirlan a'r cyflwr adfeiliedig oedd arnynt pan ysgrifenwyd llyfr pwysig ym 1856 fel rhan o ymgyrch i achub y Gadeirlan.
Medd Deon y Gadeirlan, y Tra Pharchedig Ddr Sarah Rowland Jones, “Mae technoleg newydd yn ein galluogi ni i rannu'r trysorau sydd yn Llyfrgell y Gadeirlan gyda chynulleidfa dipyn ehangach ar hyd a lled y wlad, ac hyd yn oed y byd. Gwahoddir unrhyw un sy'n meddwl bod ganddynt un o feiblau gwreiddiol yr Esgob Parry o 1620, i ddefnyddio adnoddau'r Llyfrgell i ddarganfod mwy o wybodaeth amdanynt. Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn yr adnodd dysgu hwn o fewn ein addoldy."