Beibl Sant Ioan
Beibl Sant Ioan yw'r Beibl cyntaf wedi'i ysgrifennu a’i addurno â llaw i'w gynhyrchu ers dros 500 mlynedd. Gwaith tîm ydyw dan arweiniad y caligraffydd enwog, Donald Jackson o Drefynwy, a gomisiynwyd gan Abaty Sant Ioan a Phrifysgol Minnesota UDA.
Er mwyn anrhydeddu'r gwaith a wnaed gan Donald Jackson a'i wraig Mabel, penderfynwyd y dylid cyflwyno copi - sy'n rhan o raglen Dreftadaeth fyd-eang - i le o'i ddewis. Dewisodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Cyflwynwyd y Beibl yn ffurfiol i'r Eglwys Gadeiriol ddydd Iau 12 Medi ym mhresenoldeb y Deon, yr Esgob, y Jacksons a chynrychiolwyr o Abaty Sant Ioan, gan gynnwys Elaine a Bruce Culver, dyngarwyr ac Esgobaethwyr a ariannodd y rhodd.
Teithiodd y Jacksons, y Culvers a chynrychiolwyr o Abaty a Phrifysgol Sant Ioan i Dyddewi i gyflwyno'r Beibl yn ffurfiol i Ddeon Tyddewi, Dr Sarah Llewellyn Jones, ym mhresenoldeb yr Esgob Dorrien mewn Hwyrol Weddi Corawl arbennig ddydd Iau 12 Medi.
Mae'r Beibl wedi cymryd 25 mlynedd i'w gwblhau ac mae iddo saith cyfrol. Nod efengylaidd oedd ganddo o’r dechrau’n deg. Felly penderfynwyd y dylid ei rannu'n fyd-eang. Mae Rhaglen Dreftadaeth y Beibl Sant Ioan wedi cynhyrchu 299 o gopïau i'w dosbarthu i eglwysi a sefydliadau academaidd ledled y byd. Un o'r rhain sydd wedi dod i Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Disgrifiodd y Deon Sarah y gist fel anrhydedd o’r mwyaf. “Rydyn ni'n rhannu'r nod sef y dylai'r Beibl hwn ennyn diddordeb darllenwyr ym mhobman yn neges yr Ysgrythur. Bydd cyfrolau yn cael eu harddangos yn yr eglwys gadeiriol, lle gall ymwelwyr droi'r tudalennau eu hunain, ac yng Nghanolfan Addysg y Gadeirlan i'w defnyddio mewn encilion, ymweliadau addysgol a gweithdai. Rydyn ni hefyd yn bwriadu sicrhau bod cyfrolau ar gael i eglwysi, ardaloedd gweinidogaet