Tyddewi - Esgobaeth Eco
Tyddewi yw esgobaeth ddiweddaraf yr Eglwys yng Nghymru i ennill Gwobr Efydd Esgobaeth Eco.
Rhoddir y wobr gan A Rocha UK i annog a helpu paratoi eglwysi i fynegi gofal am fyd Duw mewn addoliad ac addysgu a sut y gofalant am adeiladau a thir; ymgysylltu gyda chymunedau lleol ac ymgyrchoedd byd-eang, ac yn ffyrdd o fyw personol y gynulleidfa.
Rhoddodd Helen Stephens, Rheolwr Cysylltiadau Eglwys A Rocha grynodeb o sylwadau’r beirniaid, “Mae sylfeini cadarn ar gyfer gofal o’r greadigaeth yn yr esgobaeth wedi ei seilio ar ymrwymiadau gan yr Eglwys yng Nghymru, a gwn fod yr Esgob Joanna wedi hyrwyddo hynny ei hun. Mae’n galonogol ein bod fel esgobaeth yn anelu i fynd ymhellach na niwtral o ran carbon ac annog eglwysi i ddod yn gadarnhaol o ran yr hinsawdd yn unol â’r bleidlais yng nghynhadledd yr esgobaeth eleni.
"Mae’n dda gweld ymrwymiadau yn y Polisi Amgylchedd tebyg i wneud cynnydd ar Eglwys Eco a gostwng carbon fel rhan o adroddiadau ac ymweliadau’r Archddiaconiaid yn ogystal ag ymrwymiad i adroddiad blynyddol i gynhadledd yr esgobaeth. Rwy’n meddwl ei bod yn debyg eich bod yn gwneud yn llawer ar dir o’ch partneriaeth gyda Gofalu am Erw Duw, prosiect Erw Dewi a chymryd rhan mewn cynlluniau tebyg i Churches Count on Nature.”
Wrth groesawu’r wobr dywedodd y Parch Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal y Greadigaeth yr esgobaeth: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gwneud y cam cyntaf pwysig hwn tuag at gynnwys gofal am y greadigaeth yn llawn yn ein disgyblaeth a bywyd yr eglwys, ac rwy’n ddiolchgar iawn am waith caled cynifer o gymunedau’r eglwys y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amlwg sut y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi canfod cysylltu gyda chynllun Eglwys Eco yn galonogol a chadarnhaol yn hytrach nag yn feichus mewn unrhyw ffordd. Gwobr Arian yw’r cam nesaf’.