Canu Clychau i’r Brenin
Ar draws y wlad y mae cynlluniau yn cael eu paratoi i ganu Clychau i’r Brenin ar ddiwrnod coroni Brenin Siarl III ar Fai 6ed. Y mae hyn yn rhoi cyfle i unrhyw un sy â diddordeb i ddysgu am y grefft hynafol o ganu clychau, ysgrifenna Stephen McGrath, Meistr Canu Clychau’r Esgobaeth
Ers cannoedd o flynyddoedd y mae clychau wedi eu canu, nid yn unig i alw cymunedau i addoli, ond i ddathlu achlysuron arbennig, er cof am eraill ac i nodi digwyddiadau arbennig. Y maent yn rhan o seiniau’r DU. Ym Mehefin 2022 buom yn dathlu Jiwbili Platinwm y Frenhines Elisabeth II gyda sŵn clychau. Canwyd clychau hefyd gyda sŵn tawedog drwy’r wlad fel arwydd o barch wedi ei marwolaeth ym Medi 2022.
Yn dilyn cyhoeddiad Coroni Brenin Siarl III, hoffem recriwtio mwy o glochyddion fel y gallwn eu hyfforddi mewn da bryd i Ganu Clychau i’r Brenin.
Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu’r grefft hynafol o ganu’r offerynnau mwyaf yn y byd, cysylltwch â mi. Ebost stdavidsguildringingmaster@gmail.com neu galwch ar fy ffôn symudol 07775705290