Gwobr "Peace Mala" i Ysgol Penrhyn Dewi
Mae Ysgol Penrhyn Dewi, sy'n ysgol Eglwys yng Nghymru, yn Nhyddewi, wedi derbyn gwobr Efydd "Peace Mala". Daw hyn fel cydnabyddiaeth o'u gwaith wrth iddynt anelu i fod yn ysgol agored a chynhwysol, sy'n cyflawni mwy gyda'i gilydd trwy feithrin bywydau ifanc drwy ffydd, dysgu a chyfeillgarwch, wrth iddynt gynnig addysg a chyfleoedd o fewn Cymuned Gristnogol gefnogol.
Mae Peace Mala yn hyrwyddo cyfeillgarwch, parch a heddwch rhwng pobol o bob diwylliant, ffordd o fyw, ffydd a chred. Mae Ysgolion "Peace Mala" yn ymrwymo i roi neges a gweledigaeth Peace Mala fel canolbwynt i'w gwerthoedd.
Cyflwynwyd Ysgol Penrhyn Dewi i Peace Mala yn Ionawr 2019, ac ers hynny mae disgyblion Blwyddyn 10 wedi bod yn gweithio tuag at yr achrediad a gynrychiolir gan y wobr.
Gwelir breichled Peace Mala fel symbol o'r cysyniad, - breichled sy'n cynnwys dwy enfys ddwbwl. Mae pob glain yn cynrychioli llwybr ysbrydol gwahanol. Mae'r freichled ei hun yn cynrychioli cyfeillgarwch, parch a heddwch rhwng pawb, a'r neges ganolog yw'r Rheol Aur - "Cofiwch drin eraill fel y dymunwch iddynt hwy eich trin chi."