Grant newydd yn helpu i ariannu gofal caredig

Mae Cymru Garedig wedi lansio cronfa grantiau bach newydd i gefnogi cymunedau caredig a thosturiol yng Nghymru. Heather Ferguson, Pennaeth Polisi a Phrosiectau Age Cymru, sydd â'r manylion.
Mudiad sy'n annog Cymru i fod yn genedl ystyriol a gofalgar yw Cymru Garedig. Mae’n annog pobl i ddod at ei gilydd i gefnogi’r rhai sy'n byw gyda salwch fel canser, ac sy’n delio â marwolaeth, marw a phrofedigaeth. Trwy ddatblygu cymunedau caredig a thosturiol, gallwn fod yno pan fydd angen hynny fwyaf ar bobl.
Rydyn ni’n gwybod y gall y dull hwn wneud gwahaniaeth enfawr, ond gall mentrau lleol ei chael hi'n anodd dechrau arni felly mae Cymru Garedig wedi lansio'r gronfa newydd ac yn gwahodd ceisiadau gan gymunedau lleol am grantiau o hyd at £500.
Gallai’r mathau o weithgareddau gynnwys annog datblygiad cymunedau mwy caredig a thosturiol ynghylch byw gyda salwch, marwolaeth, marw, profedigaeth, boed hynny mewn gweithle, cartref gofal neu yn y gymuned leol. Gallai enghreifftiau gynnwys; gweithle bach sydd am ddechrau grŵp i gefnogi'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser, neu am gynnal sesiwn cynllunio bywyd yn y blynyddoedd hwyrach i'w staff, neu brosiect celf gyda phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal sydd am drafod diwedd oes, neu fore coffi neu de i roi cychwyn ar Gaffi Marwolaeth ac ati. Bydd y syniadau'n cael eu harwain gan anghenion y cymunedau lleol sy'n gwneud cais.
Mae'r rhaglen grant, a ariennir gan Macmillan Cancer Care, ac a weinyddir gan Age Cymru, yn eithaf hyblyg a gellir ei defnyddio i ariannu digwyddiadau untro, neu raglen o weithgareddau, ar-lein neu all-lein.
Does dim angen i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig, ond bydd angen iddyn nhw fod â strwythurau ffurfiol ar waith a chyfrif banc. Gellir ystyried ceisiadau ar y cyd rhwng grwpiau hefyd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: Dydd Llun 7 Ebrill 2025
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymru Garedig: https://compassionate.cymru/cy/ , drwy e-bostio contact@compassionate.cymru neu ffonio 029 2043 1555