Tyfu i Bawb – Bywyd newydd i ardd furiog hanesyddol Abergwili
Cyn bo hir bydd mwy o bobl nag erioed yn medru fod yng nghlwm a’r dysgu a’r tyfu ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar. Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, elusen fechan sydd wedi ei arwain gan y gymuned, bellach gam yn nes at gwblhau’r darn olaf o’r jig-so yn y parc, drwy adfer yr ‘ardd gyfrinachol’ a fu unwaith yn tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer bwrdd Esgobion Tyddewi.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi derbyn mwy na £203,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o gyllid y cyfnod datblygu ar gyfer adfer gardd lysiau muriog Parc Yr Esgob. Mae Prosiect Gardd Furiog Parc Yr Esgob hefyd wedi derbyn £137,127 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae’r parcdir o gwmpas hen Balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gâr, wedi bod yn safle o dyfu, dysgu a phleser am dros 800 mlynedd. Gymerodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn rheolaeth y parc oddi ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, a’r ardd furiog oddi wrth Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn 2018. Ers hynny mae’r parc a’r ardd hanesyddol hon, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, wedi bod yn destun rhaglen drawsnewid fawr o waith adfer a gwblhawyd yn 2022, ac ers hynny, mae wedi derbyn y Faner Werdd a Gwobr Baner Treftadaeth am ansawdd y safle, ei reolaeth a phrofiad yr ymwelydd.
Fel rhan o’r cyfnod datblygu dros y 12 mis cychwynnol, hwn bydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol i lunio cynlluniau manwl ar gyfer adfer tri thŷ gwydr hanesyddol, creu gardd addysgiadol gwbl hygyrch a gofod perfformio ymhlith y berllan o goed treftadol o fewn yr ardd furiog. Nod y prosiect cyffredinol yw annog mwy o amrywiaeth a chynwysoldeb ymhlith gwirfoddolwyr ac ymwelwyr â Pharc Yr Esgob.
“Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn hynod galonogol a chefnogol i’r gwaith o adfer Parc Yr Esgob, ac yr ydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y gwobrau hyn ganddynt i’n helpu cwblhau’r darn olaf o’r jig-so. Bydd y gwobrau hyn yn helpu sicrhau bod y parc cyfan yn gynaliadwy i’r dyfodol fel adnodd cymunedol gwych i bawb ei fwynhau.” Meddai Louise Austin, Rheolwr Prosiect Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn. “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag unigolion a grwpiau ar draws ein cymuned leol. Ad o ymhellach i ffwrdd, i ddysgu wrthynt a deall sut y gallwn wneud yr ardd yn fwy deniadol, hygyrch ac ysbrydoledig i bawb.”