Caplan yr Esgob newydd
"Mae Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Dorrien Davies, yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Jonathan Parker yn Gaplan i’r Esgob o 1 Medi 2024.
Bydd Jonathan yn cymryd lle'r Hybarch Paul Mackness, Archddiacon Tyddewi sydd wedi bod yn gwasanaethu fel Caplan i’r Esgob Dros Dro ers ethol Esgob Dorrien ym mis Hydref 2023. Bydd yr Archddiacon yn parhau fel Ysgrifennydd Clerigol.
Ar hyn o bryd, mae Jonathan yn gwasanaethu fel Offeiriad yng ngofal Ardal Gweinidogaeth Leol a Bywoliaeth Unedig Bro Dinefwr gyda gofal bugeiliol sylfaenol am Ardal Fugeiliol Llandeilo. Bydd yn cael ei drwyddedu gan yr Esgob yn yr Eglwys Gadeiriol ddydd Sul 15 Medi am 4.00pm. Bydd yn symud cyn hir i Abergwili i fyw yn y Ficerdy yno.
Gweddïwch dros Jonathan yn y weinidogaeth newydd hon, dros ei wraig Melanie a'u teulu ac am ei waith yn cefnogi'r Esgob."