Arolwg Sero Net o'r Eglwys yng Nghymru
Arolwg Sero Net o'r Eglwys yng Nghymru Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ceisio barn o bob cwr o'r Dalaith ar newid hinsawdd a sero net.
Bum mlynedd ers i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru fabwysiadu'r cynnig Sero Net 2030 yn unfrydol, mae'n bryd i ni werthuso ein cynnydd sero net hyd yn hyn a helpu i lywio ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Helpwch i lywio dadl sero net y Corff Llywodraethol ym mis Ebrill 2026 trwy gwblhau ein harolwg sero net ar-lein. Gellir cael mynediad at hwn yma: https://beaufort.welcomesyourfeedback.net/7330ub
Mae Beaufort Research, asiantaeth Ymchwil Marchnad annibynnol wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn casglu ac yn dadansoddi'r holl ymatebion ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Efallai yr hoffech gwblhau'r arolwg ar ran sefydliad yr Eglwys yng Nghymru yr ydych yn ei gynrychioli, a gellir asesu trosolwg o'r arolwg yma i gynorthwyo eich trafodaethau cyn ei gwblhau. https://churchinwales.contentfiles.net/media/documents/Church_in_Wales_Net_Zero _Questionnaire_CY.pdf Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau a'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Sul, 30 Tachwedd 2025. Os oes unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg, cysylltwch âjuliaedwards@churchinwales.org.uk