Creu cyfeillion
Roedd penwythnos olaf mis Ebrill yn un cyffrous iawn i eglwys Llanstadwel, wrth lansio elusen Cyfeillion Eglwys Tudwal, Llanstadwel.
Flwyddyn yn ôl, penderfynwyd y byddai elusen Cyfeillion yn helpu i gynnal a chadw adeiladwaith yr adeilad hynafol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac er mwyn sicrhau ei fod ar gael i'r gymuned ar gyfer mwy nag addoliad wythnosol rheolaidd yn unig.
Mynychodd yr Esgob John Saxbee gyfarfod o ryw 40 o fynychwyr yr eglwys a rhai nad oeddent yn eglwyswyr ond oedd â diddordeb, gan rannu ei brofiadau o sefydlu elusen debyg rai blynyddoedd ynghynt ar gyfer Eglwys Martin Sant yn Hwlffordd. Yna sefydlwyd dau grŵp bach i roi cychwyn ar y broses. Roedd un yn gyfrifol am sefydlu'r elusen yn ffurfiol gyda'r Comisiwn Elusennau ac am ysgrifennu'r cyfansoddiad, gyda’r ail yn gyfrifol am lunio'r daflen esboniadol hollbwysig, sefydlu gwefan ac ymdrin â chyhoeddusrwydd. Anfonwyd llythyr gwahoddiad yn amlinellu'r elusen a holl fanylion y digwyddiadau lansio at ryw 2000 o aelwydydd yn y plwyf.
Gofynnwyd i'r artist dawnus lleol, Audrey John, beintio llun o'r eglwys, a gyflwynodd yn hael i'r elusen. Mae printiau wedi'u cynhyrchu a chardiau wedi'u hargraffu, a gwerthwyd llawer o'r rhain yn ystod y penwythnos lansio.
Yn ystod y penwythnos, roedd rhai o'r hen gofrestrau plwyf ar gael a manteisiodd llawer ar hyn. Ar y nos Sadwrn cynhaliwyd y digwyddiad lansio, yn cynnwys datganiad byr gan Esyllt Megan Thomas i gyfeiliant Sarah Jane Absolom a sgwrs gan Simon Hancock MBE am hanes yr eglwys. Hefyd, dadorchuddiwyd y paentiad ac esboniwyd pam fod angen yr elusen, gyda lluniaeth a chyfle i gofrestru i gloi.
Ar y Sul mynychodd cynulleidfa fawr wasanaeth o Ddiolchgarwch a Chysgegriad a chafwyd pregeth wirioneddol ysbrydoledig gan yr Esgob
Dorrien, a oedd yn ddiweddglo teilwng i benwythnos hynod lwyddiannus.
Ar 15 Mai cynhelir cyfarfod cyntaf y 'Cyfeillion' yn yr eglwys am 7pm, lle bydd aelodau yn ethol pwyllgor i symud y prosiect yn ei flaen. Facebook: Friends of St Tudwal's, Llanstadwell Gwefan: https://www.tudwals.org.uk