Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd 2024
Cynhelir Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd a Gollwyd blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 yng Nghaerfyrddin.
Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd i dalu parch.
Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Hill House, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT am han-ner dydd, ddydd Sadwrn 27 Ebrill. Mae Capel Bethel y tu ôl i swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan y Fyddin ar Deras Picton gyda digon o le parcio ar gael.
Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig yn y flwyddyn pan fydd rhieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofi-adau trist babanod sydd wedi marw.
“Mae’r profiad o golli babi yn hynod boenus, a gobeithiwn fod y gwasanaeth hwn yn galluogi rhieni a’u teuluoedd a staff i fyfyrio a chofio mewn gofod sydd wedi’i amgylchynu gyda cefnogaeth a chari-ad, wrth barhau ar y taith o wahanu trwy alar.
“Mae colli babi yn llethol ac emosiynol, ond gall cyfarfod ag eraill sy'n profi colled mewn ffordd de-byg fod o gymorth.
“Fel staff pan fyddwn yn cyfarfod â theuluoedd mae’n aml yn ystod y dyddiau tywyllaf o ddyddiau ond mae cwrdd â nhw eto yn y digwyddiad blynyddol hwn fisoedd neu flynyddoedd wedyn yn gyfle arbennig iawn ac yn gymaint o fraint wrth i ni rannu a chefnogi.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Gwenidog Tim ac aelodau o Eglwys Bethel a fydd yn darparu lluniaeth.”
Bydd y gwasanaeth yn addas ar gyfer aml-ffydd a rhai di-ffydd. Yn ogystal â chofio, bydd gweddïau, darlleniadau, cerddi a cherddoriaeth i fyfyrdod.
Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyn, medrwch ddanfon neges ebost ar Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn dydd Mawrth 23 Ebrill 2023
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk