Canolfannau Cenhadaeth Impact 242 yn cau
Mae Esgobaeth Tyddewi wedi cyhoeddi y bydd ei Chanolfannau Cenhadaeth yn cau eleni, gan nodi newid sylweddol yn ei strategaeth genhadol.
Mae Byddin yr Eglwys wedi bod mewn partneriaeth ag esgobaeth y Canolfannau Cenhadaeth yn Llanelli, Cross Hands a Hwlffordd. Impact 242 yw’r enw ar y Canolfannau Cenhadaeth hyn yn yr Eglwys yng Nghymru, ac maent wedi cael eu hariannu'n rhannol gan yr esgobaeth, yr Eglwys yng Nghymru a chan Fyddin yr Eglwys.
Nid oes staff wedi bod yng Nghanolfan Genhadaeth Llanelli ac nid yw wedi bod ar waith. Yr haf hwn bydd Canolfannau Cross Hands a Hwlffordd yn cau hefyd.
Mae'r esgobaeth a Byddin yr Eglwys yn ddiolchgar am y staff a'r efengylwyr yn y Canolfannau a'r gwaith maent wedi'i wneud. Bydd yr eglwysi newydd sydd wedi eu creu bellach yn aros o fewn yr esgobaeth fel rhan o'r Eglwys yng Nghymru. Cofiwch weddïo dros bob aelod o'r staff yn ystod y cyfnod hwn o newid.