Hywel Dda yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir rhwng 9-15 Hydref I’r rhai a effeithir gan golled mewn i uno ac yn cloi gyda digwyddiad byd-eang "Ton o Oleuni".
Mae adran Gofal Ysbrydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a thimau Bydwreigiaeth a Gynaecoleg a Newyddenedigol wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan farw-enedigaeth, colled yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl genedigaeth ac i nodi bywydau'r babanod arbennig hyn.
Mae'r gefnogaeth hon yn ymestyn i rieni, teuluoedd, ffrindiau a staff gofal iechyd a oedd, neu a fyddai wedi bod, yn rhan bwysig o fywydau'r babanod hyn.
Drwy gydol yr wythnos, bydd goleuadau glas a phinc yn cael eu harddangos yn y Capel / Ystafelloedd Tawel yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.
Mae tri digwyddiad hefyd wedi'u trefnu i ddarparu lle diogel a chefnogol i rieni, teuluoedd a ffrindiau i ddod at ei gilydd er cof am y babanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr gyda’r rhai sy’n deall.
Gwahoddir chi'n gynnes i ymuno â ni trwy oleuo cannwyll gartref neu mewn man cymunedol (defnyddiwch ganhwyllau sy'n gweithio ar fatri lle bo modd a chymerwch ofal os ydych chi'n defnyddio fflamau go iawn.)
Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn amser i’w neilltuo i anrhydeddu bywydau y babanod rydyn ni'n eu cario yn ein calonnau.
“Mae hefyd yn foment i sefyll gyda'n gilydd mewn cariad i gofio, i ymuno a chynnig cysur i'r rhai sy'n galaru. P'un a allwch chi ymuno â ni yn un o'n digwyddiadau neu oleuo cannwyll gartref, mae eich gweithred o gofio yn estn gobaith ac undod ar draws ein cymunedau.”
Os na allwch fynychu digwyddiad ond hoffech anfon neges ymlaen i gael eich cynnwys, anfonwch e-bost at loved.forever.hdd@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch neu os ydych wedi cael eich effeithio gan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar euryl.howells2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267 227563. Os yw'n frys cysylltwch â'r Switsfwrdd 01267 235151 a gofynnwch am Gyswllt Hir (Long Range).