Cyfarfod o’r Corff Llywodraethol – 4-5 Medi 2024
Bydd cyfarfod allweddol o aelodau’r Eglwys yng Nghymru fis nesaf yn trafod ac eglwysi dramor a Christnogion sy’n wynebu erledigaeth.
Bydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd, yr Esgob Anthony Poggo, yn annerch Corff Llywodraethol yr Eglwys, sy’n cyfarfod ar Fedi 4-5 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn un o’r 46 eglwys ar draws y byd sy’n rhan o’r Cymundeb Anglicanaidd. Mae’r Esgob Anthony wedi arwain ysgrifenyddiaeth y Cymundeb am y ddwy flynedd ddiwethaf a dyma fydd ei ymweliad cyntaf yn y rôl honno â’r Eglwys yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyflwyniad ar waith y Cymundeb Anglicanaidd ac yn pregethu yn y gwasanaeth addoli agoriadol.
Bydd aelodau hefyd yn clywed am waith yr elusen Drysau Agored sy’n helpu Cristnogion sy’n cael eu herlid a’r rhai heb y rhyddid i ymarfer eu ffydd. Bydd Jim Stewart, Rheolwr Cysylltiadau Eglwysi Cymru yr elusen, yn rhoi cyflwyniad ar waith yr elusen.
Wrth groesawu’r ddau siaradwr, meddai Archesgob Cymru, Andrew John: “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn gwasanaethu ein cenedl ond mae’n fraint i ni hefyd fod yn rhan o gymuned fyd-eang, sef eglwysi’r Cymundeb Anglicanaidd. Dros y blynyddoedd rydym wedi meithrin partneriaethau a chysylltiadau ag eglwysi tramor, sydd wedi dwyn cyfoeth o fendithion inni ac wedi datblygu persbectif rhyngwladol pwysig i’n gweinidogaeth. Mae’n bleser mawr gennyf groesawu’r Esgob Anthony i’n cyfarfod o’r Corff Llywodraethol ac edrychaf ymlaen at glywed ei farn ar flaenoriaethau’r Cymun Anglicanaidd a sut y gall yr Eglwys yng Nghymru barhau i chwarae ei rhan.
“Fel eglwys ryngwladol, rydym hefyd yn ymwybodol iawn o ba mor anodd yw hi i lawer o Gristnogion fyw neu addoli mewn rhai mannau, wrth iddyn nhw wynebu erledigaeth a pherygl oherwydd eu ffydd. Bydd y cyflwyniad gan Jim Stewart o Drysau Agored yn canolbwyntio ar eu cyflwr, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith yr elusen ac yn amlinellu’r hyn y gallwn ei wneud i gynnig cymorth a chefnogaeth.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddau gyflwyniad hyn yn atgoffa’r Eglwys yng Nghymru o’n rôl a’n cyfrifoldebau tuag at ein cymdogion rhyngwladol, yn enwedig ar yr adeg hon pan mae’n ymddangos bod tensiynau ar gynnydd ar draws y byd.”
Mae’r Corff Llywodraethol yn cynnwys hyd at 144 o glerigwyr etholedig ac aelodau lleyg o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwe esgobaeth yr Eglwys, ac yn cynnwys yr holl esgobion. Mae eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Prif anerchiad gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol;
- Lansiad cwrs Adfent yr Esgobion, O Come Let Us Adore Him / O Deuwch ac Addolwn;
- Argymhelliad i ddiwygio oriau gwaith a gwyliau clerigwyr i wella eu cydbwysedd gwaith/bywyd.