Bydd Ysgrifennydd Esgobaeth Tyddewi yn ymddeol

Bydd Ysgrifennydd Esgobaeth Tyddewi, Howard Llewellyn, yn ymddeol ddiwedd mis Rhagfyr ar ôl saith mlynedd yn y rôl.
Yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, dechreuodd Mr Llewellyn ar y swydd ychydig cyn dechrau pandemig Covid yn 2020 ac roedd yn ganolog wrth arwain yr Esgobaeth drwy'r heriau a ddaeth yn sgil hynny. Mae hefyd wedi bod yn ffigur pwysig yn y newid o blwyfi traddodiadol i'r Ardaloedd Gweinidogaeth Leol newydd.
Dywedodd Tim Llewelyn, Cadeirydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth (DBF) “Ar ran DBF, hoffwn fynegi ein diolchgarwch mwyaf am bopeth y mae Howard wedi'i gyfrannu dros y blynyddoedd. Mae ei ymagwedd dawel a di-brysur, ynghyd â'r doethineb a'r arweiniad y mae wedi'u cynnig yn gyson, wedi bod yn amhrisiadwy.”
Mae'r broses o ddod o hyd i olynydd bellach ar y gweill a bwriedir hysbysebu'r swydd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Gobeithir y gellir penodi Ysgrifennydd newydd yr Esgobaeth ym mis Hydref, i ddechrau gweithio yn y flwyddyn newydd.