Adeiladau eglwys - sut mae eich un chi?
Mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol (NCT) yn cynnal arolwg sylweddol i ddeall yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n gofalu am y 38,500 o eglwysi yn y DU. Mae NCT yn dweud fod hwn yn gyfle i ddathlu rôl adeiladau eglwysig, gan ddod â nhw i sylw cenedlaethol. Ar adeg pan fo eu dyfodol a’u cyllid mewn perygl, bydd yr astudiaeth bwysig hon yn dangos statws presennol adeiladau eglwysig, sut y cânt eu cynnal a’u cadw, eu hariannu, a’r cymorth y maent yn ei ddarparu i gymunedau lleol. Mae pob eglwys yn wahanol. Bydd yr arolwg yn ein helpu i weld ein gwahaniaethau a nodi'r materion cyffredin sy'n ein hwynebu.
Noder bod hwn yn arolwg ar wahân i arolwg Ffydd yng Nghymru 2025 2025 Cynghrair Efengylaidd Cymru y mae llawer ohonoch eisoes wedi cymryd rhan ynddo.
Gofynnwyd i Cytûn gylchredeg y manylion hyn rhag blaen, er mwyn i chi allu cysylltu â’ch eglwysi lleol i dynnu eu sylw atynt. Bydd yr arolwg yn mynd yn fyw ar ddechrau Mai 2025, a mae NCT yn annog eglwysi lleol i gofrestru er mwyn i ni allu cynnwys eich eglwys yn yr astudiaeth hon. Er mwyn i chi beidio â cholli allan, cofrestrwch eich diddordeb yma ac, ym mis Mai, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan: https://www.nationalchurchestrust.org/survey
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg, cysylltwch â’r NCT trwy eu gwefan