Cymorth Cristnogol yn lansio apêl argyfwng brys ar gyfer Libya.
Mae miloedd o bobl wedi marw a miloedd yn ychwaneg ar goll yn dilyn y llifogydd dinistrïol a ‘sgubodd ymaith cymdogaethau cyfan yn ninas porthladd Derna.
Mewn ymgais i helpu darparu cymorth hanfodol, mae’r elusen ddatblygu ryngwladol Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl.
Yn drychinebus, fe lwyddodd Storm Daniel i chwalu dau argae, gan anfon ffrydlifoedd o ddŵr a gweddillion trwy’r ddinas, gan ddymchwel cartrefi ac adeiladau eraill a datgysylltu cyflenwadau ynni a dŵr.
Mae’r rhai hynny a oroesodd wedi colli popeth. Mae cartefi wedi’u gorchuddio mewn mwd a malurion, a’r ofn ydy bod llawer o bobl hefyd wedi’u claddu.
Mae pobl bellach yn brin o’r hanfodion megis mynediad at ddŵr glân a chyfleusterau glanweithdra digonol.
Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda Dan Church Aid (DCA), ei phartner yn Act Alliance, sydd â phresenoldeb yn Libya ers 2011. Maen nhw’n darparu cymorth meddygol i’r timau achub yn Derna ac yn helpu sefydlu llochesi i gynnal teuluoedd digartref yn Benghazi.
Mae DCA hefyd yn dosbarthu eitemau sylfaenol fel blancedi a gwelyau, eitemau glanweithdra a hylendid gan gynnwys hylif sebon, siampŵ, a deunyddiau misglwyf. Pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, fe fydd DCA hefyd yn darparu cymorth ariannol.
Dywed Michael Mosselmans, Pennaeth Adran Ddyngarol Cymorth Cristnogol:
“Mae’r golygfeydd yn Libya yn dorcalonnus. Gyda’r isadeiladwaith, gan gynnwys ysbytai a chartrefi, wedi’i golchi ymaith gan y llifogydd, fe welwn bobl heb yr
hanfodion, megis mynediad at ddŵr glân a glanweithdra digonol i atal y peryg o heintiau.
“Mae Cymorth Cristnogol, felly, wedi lansio apêl i atgyfnerthu’r cymorth y gallwn ei roi trwy ein partner, Dan Church Aid, i bobl sydd wedi colli’u cartrefi, eu bywoliaethau a’u hanwyliaid.
“Bydd pob gweddi, pob rhodd, pob gweithred yn dod â gobaith i’r bobl a effeithiwyd gan y drychineb. Trwy ymuno â ni, medrwch chithau helpu pobl sydd mewn angen i ailadeiladu eu bywydau.” I gefnogi’r apêl, ewch i o christianaid.org.uk - appeals.
Bydd rhodd o £25 yn talu am becyn ymateb dyngarol sy’n cynnwys arian ac eitemau sydd heb fod yn fwyd, megis blancedi a gwelyau, eitemau glanweithdra a hylendid megis hylif sebon, siampŵ, brwshys dannedd, deunyddiau misglwyf, weips a chewynnau i fabanod, a dŵr potel.