Cymorth Cristnogol yn lansio apêl daeargryn yn Afghanistan
Mae’r daeargryn raddfa 6.1 a darodd ddwyrain a chefn gwlad Afghanistan – gan ysgwyd adeiladau o Kabul i brifddinas Pacistan, Islamabad – wedi lladd dros 800 o bobl.

Dyma ein cydweithwyr a'n partner yn sôn wrthym fod pobl wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan y daeargryn, gan achosi colledion dynol a cholledion ariannol sylweddol i gymunedau lleol. Clywsom fod tai wedi’u hadeiladu o fwd a choed wedi dymchwel wrth i hofrenyddion cyrraedd i gludo’r rhai a anafwyd.
Mae Affganistan yn un o wledydd tlotaf y byd, gyda bron i hanner y boblogaeth mewn angen cymorth dyngarol cyn y daeargryn oherwydd gwrthdaro, sychder, dadleoli, a thrafferthion gwleidyddol. Yn 2025, roedd bron i hanner y boblogaeth – tua 22.9 miliwn o bobl – eisoes angen cymorth dyngarol i oroesi.
Mae gwaith achub angen ar frys i achub cymaint o bobl sydd wedi’u dal dan y rwbel. Mae llawer mwy angen dŵr yfed, bwyd, lloches, blancedi, offer coginio, a chyflenwadau meddygol hanfodol.
Yr hyn y mai Cymorth Cristnogol yn gwneud:
Mae ein partneriaid eisoes wedi cyrraedd rhai o’r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio. Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio’n agos gyda’n rhwydweithiau i gynnal asesiadau ac i nodi maint y difrod a’r risg i’r rhai mwyaf bregus yn enwedig menywod a merched. Mae'r ardaloedd a gafodd eu taro gan y daeargryn yn anodd ei gyrraedd sydd yn gwneud y gwaith chwilio ac achub hyd yn oed yn anoddach.
Mae gan ein partner OCHR (Organisation for Coordination of Humanitarian Relief) presenoldeb gweithredol cryf yn yr ardaloedd wedi'u heffeithio ac yn sicrhau bod cymorth yn cael ei arwain yn lleol gyda ffocws cymunedol.
Yn barod mae Cymorth Cristnogol wedi rhyddhau £50,000 i OCHR i gynorthwyo'r ymateb dyngarol brys sy’n cynnwys parseli bwyd, pecynnau dŵr, llochesi, ac arian parod ar gyfer cyflenwadau hanfodol.
Rydym yn barod i sefyll gyda’n partneriaid a’r cymunedau wedi'u effeithio gan y daeargryn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Mwy am yr ymateb a sut i helpu yma: Afghanistan Earthquake Appeal - Christian Aid