Gofalu am Llanddewi Velfrey
Adroddiad gan Janine Perkins, Warden, Eglwys Dewi Sant
Yn dilyn e-bost ynglyn ag wythnos "Carwch eich Mynwent" (Love your Burial Ground), gwahoddwyd pawb sy'n ymweld â'n heglwys ni, neu sy'n ran o grŵp e-bost newyddion y pentref, i ddigwyddiad arbennig yn Eglwys Dewi Sant ar Ddydd Sul y 13eg o Fehefin.
Picnic yn yr awyr agored, ar ôl ein gwasanaeth arferol am 11:00, oedd y cynllun, â chyfle i fwynhau mynwent hyfryd yr eglwys a'r lleoliad heddychlon sy'n edrych allan dros y cwm. Fe fydd unrhyw un sydd eisoes wedi ymweld â'n heglwys yn gwybod pa mor lwcus 'ydym i fod mewn man mor dawel.
Eglurwyd fod hyn yn gysylltiedig â phrosiect sydd wedi'i ariannu gan y Loteri - Caring for God’s Acre, ac sy'n gweithio i gefnogi grwpiau ac unigolion, yn genedlaethol, i archwilio ac i ofalu am dros 20,000 o fynwentydd Lloegr a Chymru, ac i'w mwynhau. Mae eu llyfryn gwybodaeth yn nodi y gall y mannau yma fod "yn gartref i blanhigion, anifeiliaid a thrychfilod sy'n brin yn ein cefn gwlad. Maent hefyd yn crynhoi hanes cymunedau.....maent yn llawn straeon". Y nod yw i gasglu gwybodaeth am y bywyd gwyllt a'r planhigion mewn cymaint o fynwentydd ag sy'n bosib fel rhan o arolwg bioamrywiaeth genedlaethol. Fe adawsom nifer o gopïau o'r llyfryn yn yr eglwys yn ogystal â ffurflenni arolwg er mwyn i ni fedru cofnodi beth bynnag a welir yn y fynwent. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y weithgaredd yn yr wythnos oedd yn cychwyn ar y 5ed o Fehefin, ond doedd y tywydd ddim yn ffafriol iawn, felly penderfynwyd mynd amdani ar y penwythnos canlynol gan fod y rhagolygon yn gaddo tywydd cynnes, braf - perffaith ar gyfer mynd i grwydro.
Ac felly y bu, â'r holl gynulleidfa a ffrindiau yn mwynhau picnic hyfryd, gan gadw at bellter cymdeithasol, a chyfle i fynd am dro o gwmpas y lle hardd yma a chwblhau ffurflenni arolwg hefyd.
Cawsom sgwrs fer gan hanesydd lleol, Geraint Davies, am hanes adfeilion yr hen ysgol yng nghornel mynwent yr eglwys, ac fe gawsom lawer o fanylion hanesyddol eraill ganddo am hanes sefydlu ficer newydd i'r Eglwys.
Nid oedd pob aelod o gynulleidfa arferol yr eglwys yn medru bod yn bresennol ar ddiwrnod y picnic oherwydd rheoliadau Covid, ond fe lwyddodd rheiny i gwblhau ffurflenni arolwg rai wythnosau'n ddiweddarach. Anfonwyd yr holl wybodaeth a gasglwyd yn yr arolwg i wefan "Caring for God’s Acre", a'r gobaith yw y gallwn gynnal digwyddiadau eraill tebyg ym mynwent yr Eglwys yn y dyfodol.