Ysgol Dyffryn Aman
Ymwelodd Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, â Rhydaman heddiw (dydd Gwener 26 Ebrill) yn sgil achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman a anafodd dri o bobl a syfrdanu cymuned gyfan.
Fe wnaeth yr Esgob Dorrien, a oedd yn Iwerddon adeg y digwyddiad, gwrdd â chlerigion, staff a gwirfoddolwyr lleol yn Eglwys yr Holl Saint, sydd gyferbyn â'r ysgol. Bu'n goleuo canhwyllau ac arwain gweddïau dros y rhai a gafodd eu heffeithio cyn ymweld â'r ysgol i gwrdd â staff a mynd am dro o gwmpas canol y dref.
Soniodd y ficer Alison Reeves wrth yr Esgob am y tawelwch brawychus a oedd wedi taro'r dref. “Fe aethon ni am dro [drannoeth y digwyddiad] a doedd neb o gwmpas," meddai. “Mae pobl yn ei chael hi'n anodd credu y gallai'r fath beth ddigwydd rhywle fel hyn.”
Diolchodd yr Esgob Dorrien i glerigion ac aelodau'r eglwys am y gefnogaeth a gynigiwyd i rieni wrth iddyn nhw aros wrth y gatiau, heb wybod a oedd eu plant yn ddiogel. “Mae hwn wedi bod yn brofiad ofnadwy i Rydaman gyfan," meddai. “Mae llawer yn dioddef yma, a bydd yn cymryd amser i bobl allu dod dros hyn. Byddwn yn eu cynnal yn ein calonnau a'n gweddïau ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel Eglwys i'w helpu tuag at ryw fath o gymod.”