Mae'r Esgob Joanna yn cymryd absenoldeb salwch
Datganiad i’r offeiriaid.
Gyda thristwch yr ydym yn cyhoeddi fod Esgob Joanna i ffwrdd yn sâl. Yn ei habsenoldeb, er mwyn sicrhau bod gwaith yr Esgobaeth yn bwrw yn ei flaen, mae’r Esgob yn trwyddedu y tri Archddiacon ardal, sef Archddiaconiaeth Tŷ Ddewi, Caerfyrddin ac Aberteifi fel ‘Commisaries’. Unrhyw fater a fydd yn codi, a wnewch chwi fel clerigion gyslltu â’ch Archddiacon ardal. Gofynnwn yn garedig am eich gweddīau dros Esgob Joanna, am ei gwellhad, ac a fyddwch yn barod i ddatgan y cyhoeddiad yma i’ch cynulleidfaoedd?
A fyddech yn barod hefyd i weddīo drosom fel Archddiaconiaid a staff yr Esgobaeth wrth i ni gyda’n gilydd arwain yr Esgobaeth i’r dyfodol agos? Bydd staff yr Esgob yn gweithio fel tîm yn ystod yr amser yma. Parhawn i’ch sicrhau fod unrhyw wybodaeth am wellhad yr Esgob yn cael ei rhannu gyda chwi i gyd